Datganiad i'r wasg

Digwyddiad i gyflenwyr lleol yn y sector adeiladu ar gyfer y Carchar arfaethedig i Ogledd Cymru

Cyfleoedd busnes yn sgîl datblygiad arfaethedig y Carchar ar gyfer Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Prison cell

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn annog cwmnïau adeiladu yng ngogledd Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd busnes a ddaw yn sgîl datblygiad arfaethedig y Carchar ar gyfer Gogledd Cymru.

Mae busnesau lleol yn Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru yn cael eu gwahodd i’r “Digwyddiad Ymgysylltu â Chyflenwyr Lleol” (14 a 15 Ionawr) yn Redwither Tower ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Yno, byddant yn cael y cyfle i gwrdd â chwmnïau adeiladu sy’n cyflwyno cynigion i adeiladu’r carchar arfaethedig.

Ym mis Medi eleni, cyhoedd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling, y bydd carchar newydd ar gyfer 2,000 o bobl yn cael ei adeiladu ar hen safle Firestone yn Wrecsam, gogledd Cymru.

Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio, bydd y gwaith ar y carchar mwyaf yng Nghymru a Lloegr yn dechrau ar y safle haf nesaf, a bydd yn gwbl weithredol erbyn diwedd 2017.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn annog cwmnïau Cymreig yn y sector adeiladu i fynychu’r digwyddiad ymgysylltu â chyflenwyr a defnyddio’r cyfle i ddangos ansawdd a sgiliau gweithlu Cymru.

Dywedodd David Jones:

Mae’r Llywodraeth hon yn credu’n gryf bod gwella seilwaith Prydain yn hanfodol er mwyn sicrhau’r twf economaidd cytbwys a hirdymor y mae’r wlad hon ei angen.

Mae’r buddsoddiad o £250 miliwn mewn carchar yn Wrecsam yn ddatblygiad a fydd nid yn unig yn gwella lles carcharorion, ond bydd hefyd yn hwb sylweddol i economi gogledd ddwyrain Cymru.

Disgwylir y bydd yn creu hyd at 1,000 o swyddi ac yn cyfrannu oddeutu £23 miliwn y flwyddyn, gan ddarparu cyfleoedd adeiladu enfawr a phosibiliadau gwych i fusnesau lleol.

Rwyf eisiau sicrhau y bydd cwmnïau yng ngogledd Cymru yn manteisio ar y cyfle unigryw hwn, dangos bod rhai o’r cyflenwyr gorau un gennym, a dangos ansawdd ein gwaith a’r gwerth y gallwn ei gynnig.

Mae’r digwyddiad ar gyfer y cam adeiladu’n unig. Bydd digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal yn y dyfodol ar gyfer elfen weithredol y carchar.

Dyma rai o’r meysydd gwaith gofynnol – gwasanaethau adeiladu cyffredinol, perchnogion gwestai, arlwyo, systemau larwm, glanhau, ffensio, gwasanaethau trydanol, saernïo gwaith metel, peintio ac addurno, gweithwyr wedi’u cyflenwi gan asiantaethau, plastro, diogelwch, rheoli gwastraff, printio.

Gofynnir i fusnesau sydd am gael apwyntiad yn y digwyddiad gofrestru yma erbyn dydd Llun 6 Ionawr 2014 fan bellaf.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Redwither Tower ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ar 14 a 15 Ionawr ac mae’n rhad ac am ddim. Bydd cwmnïau’n cael slot amser o hyd at un awr ar y naill ddyddiad neu’r llall i gwrdd â’r cwmnïau adeiladu.
  • Bydd cynnal y digwyddiad yn amodol ar ganlyniad y cais cynllunio amlinellol sydd wedi cael ei gyflwyno i’r Adran Gynllunio.
Cyhoeddwyd ar 19 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 December 2013 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.