Stori newyddion

Liam Fox yn cyhoeddi ymgyrch fuddsoddi gwerth £240 miliwn, gan greu miloedd o swyddi yng Nghymru

Llywydd y Bwrdd Masnach, y Gwir Anrhydeddus Dr Liam Fox AS, yn llywyddu dros gyfarfod o’r Bwrdd Masnach yng Nghymru am y tro cyntaf gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns.

Liam Fox attends a National Trade Academy Programme event ahead of the Board of Trade meeting in Swansea

Liam Fox attends a National Trade Academy Programme event ahead of the Board of Trade meeting in Swansea.

Am y tro cyntaf, bydd y Bwrdd Masnach yn cwrdd yng Nghymru heddiw (dydd Iau, 15 Tachwedd) i lansio gwerth £240 miliwn o brosiectau ynni ac isadeiledd yng Nghymru i fuddsoddwyr drwy’r byd.

Bydd Portffolio Buddsoddi mewn Ynni y DU yn cael ei lansio yn Abertawe. Mae’n anelu at ddenu:

  • £35 miliwn o fuddsoddiad yng Nghynllun Ynni Morol Morlais, ac ar Ynys Môn hefyd.
  • £100 miliwn ar gyfer Gwaith CoGen yng Nghaerdydd sy’n defnyddio gwastraff i gynhyrchu ynni; ac
  • Oddeutu £105 miliwn o fuddsoddiad yng Nghyrchfan Gwyliau Arfordirol Penrhos ar Ynys Cybi.

Yn ogystal, bydd Llywodraeth y DU yn ychwanegu dau brosiect newydd o Gymru at ei gynllun Cyfleoedd â Photensial Mawr, sy’n amcanu at symud buddsoddiad yn gyflym i ranbarthau a sectorau o’r economi.

Y prosiectau dan sylw yw’r sector niwclear yng Ngogledd Cymru (lle byddir yn hyrwyddo cyfleoedd ynglŷn â dadgomisiynu, uwchdechnoleg a chadwyn cyflenwi Wylfa Newydd) a’r sector gwyddorau bywyd a llesiant yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth y DU yn hyrwyddo’r cyfleoedd hyn yng Nghymru i fuddsoddwyr mewn 108 o wledydd er mwyn diogelu swyddi, twf a ffyniant.

Tra byddant yng Nghymru, bydd Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol a Llywydd y Bwrdd Masnach, Dr Liam Fox AS ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS hefyd yn cyflwyno Gwobrau’r Bwrdd Masnach (GBMau) i wyth o gwmnïau i ddathlu eu llwyddiant yn allforio a hyrwyddo buddsoddiad. Mae’r cwmnïau hyn, sy’n amrywio o wneuthurwyr dodrefn yn Wrecsam i fragwyr cwrw yng Nghasnewydd, yn dangos economi Cymru ar ei gorau.

Meddai’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol a Llywydd y Bwrdd Masnach, y Gwir Anrhydeddus Dr Liam Fox:

Mae Cymru yn genedl sydd wedi’i hadeiladu ar arloesedd diwydiannol a bydd lansio’r Portffolio Buddsoddi mewn Ynni heddiw, ochr yn ochr â’r cynllun Cyfleoedd â Photensial Mawr yn cyflawni twf mewn sectorau arloesol newydd, gan annog creadigedd, creu swyddi a sbarduno ffyniant yma yng Nghymru a thrwy’r DU.

Mae fy adran economi ryngwladol wedi sefydlu perthynas â buddsoddwyr mwyaf dylanwadol y byd er mwyn sicrhau mai’r DU o hyd fydd y brif gyrchfan yn Ewrop ar gyfer Buddsoddiad Uniongyrchol o Dramor – ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn brawf pellach bod galw anferth gan fuddsoddwyr am brosiectau yng Nghymru.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS:

Rydw i wrth fy modd yn croesawu’r Bwrdd Masnach i Abertawe heddiw ac edrychaf ymlaen at raglen lawn o weithgareddau wedi’i theilwra i gefnogi busnesau Prydeinig sy’n dymuno cyflawni eu huchelgais allforio drwy’r byd.

O’r wyth enillydd Gwobrau’r Bwrdd Masnach yng Nghymru at y cyfleoedd â photensial mawr yn y sector niwclear a gwyddorau bywyd, dengys ein cyhoeddiadau heddiw sut y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i weithio ar ran pob busnes sy’n gweithio’n galed hybu masnach, annog buddsoddiad rhyngwladol ac arwain y ffordd ar gyfer twf, gan gynhyrchu swyddi, diogelwch a Chymru fwy ffyniannus yn y dyfodol.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

• Mae’r Bwrdd Masnach yn dod ag arweinwyr busnes amlwg o bob rhan o’r DU at ei gilydd i hyrwyddo cyfleoedd allforio a buddsoddi er mwyn sbarduno twf a ffyniant drwy’r DU gyfan.

• Mae’r bwrdd yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn mewn gwahanol fannau yn y DU.

Prosiectau buddsoddi mewn ynni

  1. Prosiect Isadeiledd Ynni Morol Morlais, Ynys Môn, Gogledd Cymru, gwerth £35 miliwn GDV. Mae Menter Môn yn cynnig cyfle ar gyfer buddsoddiad mewn datblygu cyfleuster isadeiledd ynni morol gwerth £35 miliwn. Mae’r prosiect yn cael budd o ffrydiau refeniw sefydlog ac enillion da o’r buddsoddiad. Bydd y datblygwyr yn ystyried amryw ffyrdd o weithio gyda buddsoddwyr yn cynnwys partneriaeth ecwiti, cyd-fuddsoddi neu gyllid datblygu. Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd buddsoddi mewn prosiect sy’n cyfnerthu ac yn cyfoethogi’r farchnad.

  2. Gwaith CoGen sy’n defnyddio gwastraff i gynhyrchu ynni, Caerdydd, De Cymru gwerth £100 miliwn GDV. Mae CoGen yn cynnig cyfle i fuddsoddi mewn datblygu gwaith diwydiannol gwerth £100 miliwn yng Nghaerdydd fydd yn defnyddio gwastraff i gynhyrchu ynni. Gan ddefnyddio technoleg brofedig, bydd y prosiect yn gallu manteisio ar ffrwd refeniw hirdymor drwy gontract ac enillion da o’r buddsoddiad. Bydd CoGen yn ystyried amryw ffyrdd o weithio gyda buddsoddwyr fuddsoddwyr yn cynnwys partneriaeth ecwiti, dyled ac ecwiti ynghyd, neu gyd-fuddsoddi. Mae’r prosiect hwn yn un o nifer o brosiectau yn defnyddio gwastraff i gynhyrchu ynni sy’n cael eu datblygu gan CoGen, a fydd yn arwain at gyfleoedd ariannu eraill posibl.

  3. Pentref Gwyliau Arfordirol Penrhos – Ynys Cybi, Ynys Môn, Gogledd Cymru gwerth £105 miliwn GDV. Bydd hyrwyddwr y prosiect yn ystyried amryw ffyrdd o ariannu datblygiad y pentref gwyliau 80 hectar hwn ar hyd arfordir hardd gogledd-ddwyrain Ynys Cybi, Ynys Môn. Yn ychwanegol, bydd 29 hectar o fannau agored hygyrch i’r cyhoedd a bydd llwybr arfordirol yn cael ei ddarparu a’i gynnal a’i gadw er budd y preswylwyr a’r ymwelwyr.

Meysydd Cyfle â Photensial Mawr

  1. Sector niwclear Cymru - Cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi niwclear yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Dadgomisiynu, Uwchdechnolegau Niwclear, Adweithyddion Modiwlar Bychain a datblygiad arfaethedig gorsaf ynni niwclear sifil Wylfa Newydd gan Horizon (Hitachi).

  2. Cyfle masnachol i gwmnïau i weithio ochr yn ochr â’r GIG, ymchwilwyr, academyddion a busnesau gwyddorau bywyd eraill i ddatblygu technolegau newydd, yn gyrru buddsoddiad gwyddor bywyd mewn ardaloedd yn cynnwys ymchwil gofal iechyd ac arloesedd technolegol.

Enillwyr Gwobrau’r Bwrdd Masnach

  • AerFin (Caerffili) Mae’r cwmni hwn yn arbenigo mewn awyrennau a datrysiadau i’r diwydiant awyrennau masnachol. Mae’n ddarparu gwasanaethau sydd wedi’u hintegreiddio’n llawn ac sy’n arbed cost mewn perthynas â chydrannau awyrennau a chadwyni cyflenwi peiriannau i gwsmeriaid sy’n cynnwys cwmni awyrennau byd-eang ym maes Gweithgynhyrchwr Offer Gwreiddiol (GOG) a Chynnal a Chadw, Trwsio, Atgyweirio (CChTA).

  • Concrete Canvas (Pontypridd) Mae’r cwmni hwn yn cynhyrchu 3 o gynhyrchion sydd wedi ennill llawer o wobrau, Concrete Canvas®, y leinin anhydraidd popeth-mewn-un, CC Hydro™ a Concrete Canvas Shelters (CCS). Mae pob un o’r cynhyrchion wedi cael eu cynhyrchu yn y DU ac maen nhw’n cael eu hallforio i dros 80 o wledydd, drwy rwydwaith o dros 40 o Bartneriaid rhyngwladol. Eleni, disgwylir i’r trosiant fod yn fwy na £11m, ac daw 80% o hyn o allforion. Rhagwelir blwyddyn arall o dwf yn 2019. Mae’r cwmni yn awr yn cyflogi dros 50 o bobl mewn chwe swyddfa drwy’r byd - agorwyd y swyddfeydd ddiweddaraf ym Milan a’r Emiradau Arabaidd Unedig.

  • Flamgard (Pont-y-pŵl) Mae’r cwmni hwn yn arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu damperi ar gyfer amrywiaeth eang o ddiwydiannau. Eu prif sectorau diwydiannol yw olew a nwy, niwclear a chludiant (twnelau). Ar hyn o bryd, mae oddeutu 50% o’u cynnyrch yn cael ei allforio ac maen nhw’n dymuno cynyddu eu hallforion er mwyn cwrdd â’u targed trosiant uwch. Maen nhw’n cyflogi oddeutu 62 o bobl yn llawn amser o’u Pencadlys ym Mhont-y-pŵl.

  • Laser Wire Solutions (Pontypridd) Mae’r cwmni hwn wedi’i leoli yn Ne Cymru ac mae’n gwmni technoleg arloesol sy’n dylunio ac yn cynhyrchu peiriannau stripio gwifrau safonol a phwrpasol er mwyn tynnu’r insiwleiddiad oddi ar wifrau a cheblau o ansawdd uchel, o unrhyw faint neu gymhlethdod. Mae’r cwmni’n gweithredu mewn amryw sectorau, yn cynnwys meddygaeth, y diwydiant ceir, y diwydiant awyrofod a chyfathrebu data. Yn 2018, derbyniodd y cwmni Wobr y Frenhines am Fasnach Ryngwladol.

  • Lumishore (Abertawe) Mae’r cwmni hwn yn fusnes bychan bywiog sy’n cynhyrchu systemau goleuo LED tanddwr arloesol o ansawdd uchel yn fyd-eang, ar gyfer llongau o bob math a maint, o longau tendio bychain i iotiau mwyaf y byd. Lleolir y cwmni yn Abertawe ac mae ei gynnyrch yn cynnwys y goleuadau tanddwr morol hamdden cyntaf yn y byd sy’n newid lliw, yr uned gydgyfnewidiol drwy-gorff-y-llong leiaf yn y byd, a system oleuo y gellir ei weldio i mewn ar gyfer iotiau anferth.
  • Markes International (Llantrisant) Mae’r cwmni hwn yn arloesi’n dechnolegol drwy gynhyrchu a gwerthu offer gwyddonol ar gyfer samplu cemegau organig o nwyon, hylifau a solidau ar gyfer cemegwyr dadansoddol drwy’r byd, mewn ystod eang o sectorau busnes ac ymchwil.
  • Silverlining Furniture (Wrecsam) Mae’r cwmni hwn yn wneuthurwr dodrefn moethus sy’n cyflogi 71 o bobl yn Wrecsam. Sefydlwyd y busnes yn 1985 gan Mark Boddinmgton sy’n wneuthurwr dodrefn a phrif swyddog gweithredol y cwmni. Mae’r cwmni’n anelu at gynhyrchu dodrefn mwyaf ysbrydoledig yr 21ain ganrif. Mae’r cwmni’n adnabyddus am gyfuno dylunio creadigol a chrefftwaith arloesol gyda gweithgynhyrchu a deunyddiau uwch, gan greu dodrefn pwrpasol ar gyfer llongau hwylio a thai. Ers iddo symud i Gymru yn 2014, mae’r cwmni wedi gweld twf syfrdanol, gan dyfu o £2.2m i £7.8m a chreu 58 o swyddi. Eleni, mae’r cwmni wedi ennill Gwobr y Frenhines am Allforio a chafodd ei restru ymysg y 100 busnes bach neu ganolig ei faint sy’n tyfu gyflymaf gan Fastrack yn y Sunday Times. Eleni, maent wedi dechrau agor dwy farchnad ddaearyddol newydd yn y Dwyrain Canol ac Asia.

  • Tiny Rebel (Casnewydd) Bragdy annibynnol yw’r cwmni hwn sy’n cynhyrchu cwrw a chynnyrch cysylltiedig. Fe’i lleolir yng Nghasnewydd. Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi cadarnhau cytundeb mewnforio yn Efrog Newydd, gan roi troedle i’r cwmni ym marchnad gwrw fwyaf cyffrous y byd. Mae cwsmer newydd yn Tsieina wedi agor un o’r marchnadoedd cwrw mwyaf, ac sy’n tyfu gyflymaf, yn y byd.
Cyhoeddwyd ar 15 November 2018