Trafod treth gydag ap CThEF
Lawrlwythwch ap CThEF heddiw i gael mynediad at wybodaeth ariannol a gwybodaeth am eich treth.
- Mae CThEF yn annog teuluoedd i ddechrau trafod materion ariannol yn ystod Wythnos Siarad am Arian (3 i 7 Tachwedd) gan ddefnyddio ap CThEF.
- Yn ystod y flwyddyn dreth hon, mae dros 5.6 miliwn o bobl wedi bod yn defnyddio’r ap.
- Mae’r ap yn cynnig ffordd hawdd a chyflym i gael gwybodaeth am eich treth, Yswiriant Gwladol, a rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog teuluoedd i ddechrau trafod materion ariannol a defnyddio ap CThEF yn ystod Wythnos Siarad am Arian (3 i 7 Tachwedd) wrth iddo gyhoeddi ei wasanaethau mwyaf poblogaidd.
Eleni, thema’r Wythnos Siarad am Arian yw ‘dechreuwch y drafodaeth’, ac mae ap CThEF yn rhoi gwybodaeth ariannol a gwybodaeth am dreth i bobl o bob oedran. Gall unrhyw un fwrw golwg dros ei rif Yswiriant Gwladol a’i gadw, hawlio Budd-dal Plant a gwirio rhagolwg o’i Bensiwn y Wladwriaeth.
Ers 6 Ebrill 2025, mae dros 5.6 miliwn o bobl wedi bod yn defnyddio ap CThEF, a dyma restr o’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd:
- gwirio cyflog cyn iddo gyrraedd cyfrif banc, a gwybodaeth arall ynghylch Talu Wrth Ennill (TWE) – 4.14 miliwn o ddefnyddwyr
- bwrw golwg dros grynodebau treth blynyddol – 1.94 miliwn o ddefnyddwyr
- bwrw golwg dros rif Yswiriant Gwladol a’i gadw, neu wirio cyfraniadau – 1.79 miliwn o ddefnyddwyr
- gwirio cyfraniadau Pensiwn y Wladwriaeth – 1.49 miliwn o ddefnyddwyr
- bwrw golwg dros grynodeb Hunanasesiad a gwneud taliadau – 1.19 miliwn o ddefnyddwyr
Gall yr holl deulu helpu ei gilydd gyda mathau eraill o gynllunio ariannol – o drafod y pwysigrwydd o ddeall eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn berson ifanc, i drafod sut i wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth wrth i chi baratoi i ymddeol. Gall unrhyw un ymuno â’r miliynau o gwsmeriaid sy’n defnyddio ap CThEF er mwyn cael trafodaethau agored am arian gyda’r teulu.
Gallwch lawrlwytho ap CThEF i’ch dyfais Android neu iPhone. Unwaith i chi greu cyfrif, gallwch ddechrau ei ddefnyddio’n syth i fwrw golwg dros wybodaeth am eich treth neu ddiweddaru’ch gwybodaeth bersonol, er enghraifft eich enw neu’ch cyfeiriad.
Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:
Mae’n gallu bod yn anodd sgwrsio am faterion ariannol, yn enwedig gyda’ch teulu. Fel rhan o Wythnos Siarad am Arian, rydym yn annog teuluoedd i gipio’r cyfle i drafod arian. O gyngor ar gyllidebu i ffeithiau hanfodol am dreth, mae ap CThEF yn ei gwneud hi’n hawdd cael mynediad at wybodaeth am dreth, a chael y trafodaethau agored hynny sydd mor bwysig. Gallwch lawrlwytho ap CThEF heddiw.
Heddiw, mae CThEF am annog pobl i fynd ‘Amdani’ a defnyddio’i wasanaethau digidol drwy lansio’i ymgyrch ddiweddaraf. Gall y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn gael mynediad at wybodaeth a chael sicrwydd bod tasgau fel hawlio Budd-dal Plant, cofrestru ar gyfer Cymorth i Gynilo neu hawlio ad-daliad treth wedi’u cyflawni.
Further information
Lawrlwythwch yr ap o Google Play neu Apple Store
Mae ap CThEF yn ddwyieithog ac ar gael yn Gymraeg.
Gallwch ddefnyddio ap CThEF er mwyn gwneud y canlynol:
- gwirio eich cod treth, eich rhif Yswiriant Gwladol, a’ch incwm a hanes cyflogaeth o’r pum mlynedd diwethaf
- bwrw golwg dros a rheoli Budd-dal Plant a rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth
- cael mynediad at fanylion treth, gan gynnwys eich cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr a gwybodaeth am eich incwm
- defnyddio offer, fel y gyfrifiannell dreth, i amcangyfrif cyflog clir, a gwirio am fylchau yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- gwneud taliadau ar gyfer Hunanasesiad, Asesiad Syml, a hyd yn oed trefnu nodynnau atgoffa ar gyfer talu
- cael mynediad at eich cyfrif Cymorth i Gynilo a hawlio ad-daliadau os ydych wedi gordalu treth
- olrhain hynt ffurflenni a gohebiaeth â CThEF
- diweddaru gwybodaeth bersonol megis eich enw a’ch cyfeiriad
- cadw eich rhif Yswiriant Gwladol mewn waled ddigidol a dewis cael gohebiaeth gan CThEF drwy ddull electronig
- defnyddio cynorthwyydd digidol CThEF ar gyfer arweiniad a chymorth