Data Trafodiad mis Gorffennaf 2015
Mae'r data a gyhoeddir yma yn rhoi gwybodaeth am y niferoedd a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Gorffennaf 2015.

Ym mis Gorffennaf 2015:
- y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,578,947 o geisiadau
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 363,829 o geisiadau
- Birmingham ar frig y tabl o geisiadau gan awdurdodau lleol gyda 24,398 o geisiadau
Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,578,940 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys 1,541,143 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:
- 385,178 yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
- 709,846 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
- 210,935 yn chwiliadau
- 97,868 yn drafodion am werth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 363,829 |
Llundain Fwyaf | 307,533 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 173,229 |
De Orllewin Lloegr | 156,656 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 137,493 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 119,154 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 110,001 |
Cymru | 73,536 |
Gogledd Lloegr | 73,365 |
Dwyrain Anglia | 63,976 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 143 |
Ynysoedd Sili | 32 |
Cyfanswm | 1,578,947 |
Tri phrif awdurdod lleol | Ceisiadau |
---|---|
Birmingham | 24,398 |
Dinas Westminster | 22,717 |
Leeds | 18,091 |
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 2,095 |
Countrywide Property Lawyers | 1,069 |
O’Neill Patient | 995 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 8,697 |
O’Neill Patient | 6,278 |
Optima Legal Services | 6,027 |
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Awst ar ddydd Llun 21 Medi 2015 am 11 y bore yn data.gov.uk.
- Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Ar gyfer esboniad o’r termau a ddefnyddir, gweler Byrfoddau a ddefnyddir yn y Data Trafodiad.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry.
- Dilynwch ni ar Twitter a dewch o hyd i ni ar ein blog, LinkedIn a Facebook.
Cysylltu
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
Email HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344