Cyflwyno'r Cynllun Ffordd Un IPO
Wrth i ni baratoi i lansio gwasanaeth patentau Un IPO, rydym yn rhannu ein cynllun ffordd o newidiadau, gwelliannau ac ychwanegiadau dros y misoedd nesaf.
Mae’r gwasanaeth newydd yn cynnig rhai uwchraddiadau clir dros yr hen wasanaethau - fel y gallu i weld diweddariadau ar eich patentau bron mewn amser real - sy’n rhoi sylfaen gadarn inni i adeiladu arni. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod meysydd lle mae angen gwella’r gwasanaeth a byddwn yn parhau i fynd i’r afael â’r rheini.
Isod mae ein cynllun ffordd cyfredol o welliannau arfaethedig. Gallwch ddysgu mwy am beth yw’r cynllun ffordd, beth mae’n ei olygu a beth yw’r camau nesaf yn ein blog - yn cyflwyno Cynllun Ffordd Gwasanaeth Un IPO.
One IPO Service roadmap 1.0

Cyn lansio
Dyma’r gwelliannau brys y byddwn yn eu gwneud cyn i’r gwasanaeth lansio.
-
cyhoeddi - Adfer cyhoeddi patentau i’w gapasiti llawn
-
gwelliannau i’r system fewnol - Cyflymu prosesu ceisiadau gan gynnwys derbynebau ffeilio ar gyfer ceisiadau NP1 ac anfonebu
-
deillio hawl - Wrth wneud cais am batent, byddwn yn ychwanegu mwy o opsiynau fel y gall ffeilwyr ddatgan yn gywir sut y deilliodd yr hawliau o’r dyfeisiwr
-
newidiadau i ddrafftiau - TBydd y defnyddiwr sy’n cyflwyno cais drafft nawr yn cael hysbysiadau, nid y defnyddiwr a’i creodd
-
ffioedd diweddaru - gwasanaeth diweddaru fel bod ffioedd newydd yn cael eu harddangos a bod gofyn i’r cwsmer dalu’r swm cywir
Ffenestr lansio
Dyma’r gwelliannau y byddwn yn eu blaenoriaethu yn ystod y 6 mis cyntaf ar ôl i’r gwasanaeth lansio.
-
gohebiaeth - Gwelliannau i ohebiaeth, gan gynnwys pwy sy’n ei derbyn, lawrlwytho sawl dogfen ar unwaith a rhagolwg dogfennau.
-
gwelliannau i geisiadau patent -
- Mae’r cynrychiolydd yn ddiofyn i’r sefydliad y mae eich cyfrif wedi’i gysylltu ag ef.
-Gwelliannau i’r dudalen ‘Adolygu a chyflwyno’ i gynnwys manylion ffioedd ac i ysgogi gwiriadau pellach -
ymateb i welliant archwiliad - Ychwanegu opsiwn ‘Dogfennau Ychwanegol’ i ganiatáu i newidiadau wedi’u holrhain gael eu lanlwytho’n haws
-
cofrestru o wefan IPO - Gall cwsmeriaid gofrestru am gyfrif o wefan IPO
-
newid enw a chyfeiriad - Ychwanegir y nodweddion newid enw a newid cyfeiriad at y gwasanaeth
-
tynnu’n ôl - Ychwanegu opsiwn i lanlwytho gwybodaeth ategol, ychwanegu proc pellach cyn cwblhau tynnu’n ôl ac arddangos manylion ategol y cais sy’n cael ei dynnu’n ôl
-
gwelliannau chwilio - Ychwanegu’r gallu i chwilio am batentau yn ôl rhif cyhoeddiad. Gwella chwiliad trwy ddychwelyd cyfeiriadau sydd mewn defnydd yn unig
-
gwelliannau i grwpiau - Cyfres o newidiadau i wella ymarferoldeb y grwpiau
Y tu hwnt i’r lansiad
Dyma welliannau pwysig eraill y byddwn yn eu gwneud yn y 6-12 mis ar ôl y lansiad.
-
gohebiaeth -Gweithredu newidiadau a gwelliannau pellach i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr adolygu a lawrlwytho gohebiaeth
-
gwelliannau i geisiadau patent - Gweithredu newidiadau a gwelliannau pellach, gan gynnwys ffyrdd o chwarae manylion a dogfennau ceisiadau yn ôl yn syth ar ôl eu cyflwyno
-
talu ac anfonebu - Gwelliannau i’r profiad talu yn OneIPO, gan gynnwys gweld balansau Cyfrif Adneuo a gwelliannau i pryd y cyhoeddir anfonebau ar gyfer ceisiadau newydd
-
Ceisiadau Cyfnod Cenedlaethol - Gwneud gwelliannau i’r hawliad yn flaenoriaeth
-
hysbysiadau atgoffa adnewyddu a hysbysiadau rhoi’r gorau - Anfon allan, yn ddigidol, yr hysbysiadau atgoffa adnewyddu hwyr a hysbysiadau rhoi’r gorau a gynhyrchwyd gan OneIPO.
Rhowch eich adborth i ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwelliannau arfaethedig, cysylltwch os gwelwch yn dda ag oneiposupport@ipo.gov.uk.
Heddiw rydym hefyd wedi cyhoeddi’r cyntaf o’n harddangosiadau fideo o’r Gwasanaeth One IPO. Byddwn yn ychwanegu fideos arddangos (demo) newydd yn rheolaidd yn y cyfnod cyn y lansiad. Gallwch ddod o hyd i’r demo cyntaf a phob demo yn y dyfodol ar lyfrgell YouTube - Swyddfa Eiddo Deallusol DU.
Updates to this page
-
Added translation
-
First published.