Stori newyddion

Adroddiad interim ar y grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain

Mae adroddiad newydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhoi diweddariad interim ar y cynnydd a wnaed gan y Grant LSLIP.

Ym mis Ebrill 2020, lansiodd y Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder y Grant LSLIP, sef rhaglen ddwy flynedd sy’n ariannu ystod o wasanaethau ymyrryd cynharach ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae LSLIP yn ariannu 11 o brosiectau grant ledled Cymru a Lloegr sy’n darparu cyngor ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain ar wahanol gamau o’u problem o fewn sawl maes cyfraith sifil a theuluol. Mae gweithio mewn partneriaeth ac ymyriadau cynharach wrth wraidd yr holl weithgareddau hyn, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i gleientiaid.

Er mwyn datblygu sylfaen dystiolaeth gyfunol o’r manteision y mae’r rhaglen yn eu darparu, mae pob derbynnydd grant wedi casglu ac adrodd ar amrywiaeth o ddata ansoddol a meintiol ynghylch y cyngor y maent wedi’i roi, y cleientiaid a gafodd y cyngor hwn a’r effaith y mae’r cyngor hwn wedi’i chael ar wella canlyniadau cleientiaid.

Mae’r adroddiad interim hwn yn dwyn ynghyd y data a’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, er mwyn adrodd ar gynnydd tuag at amcanion y grant. Mae’r canfyddiadau hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad cychwynnol ac felly nid ydynt o reidrwydd yn ddangosydd cywir o berfformiad ar hyn o bryd nac yn adlewyrchu’r safbwyntiau a gyrhaeddir yn yr adroddiad terfynol.

Prif ganfyddiadau’r adroddiad yw:

  • Mae derbynwyr y grant LSLIP wedi darparu ystod o gyngor cyfreithiol, cefnogaeth ymarferol a gwybodaeth am weithdrefnau i filoedd o bobl ledled Cymru a Lloegr sydd â phroblemau sifil a theuluol. Mae’r grantiau wedi galluogi oddeutu 10,000 o bobl i gael cymorth personol un-i-un ar eu problemau sifil a theuluol, a niferoedd sylweddol uwch i gael gafael ar wybodaeth ac arweiniad cyfreithiol cyhoeddus.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r cyngor a ddarparwyd gan y derbynwyr grant lleol a rhanbarthol wedi bod yn gyngor cyffredinol cychwynnol (68% o’r cyngor) ar broblemau teuluol, cyflogaeth a thai (bron i 75% o’r problemau). Fodd bynnag, darparwyd llawer iawn o waith achos a chyngor cyn-llys.
  • Yn fras, mae’n ymddangos bod y rhai sy’n derbyn grant yn lleol ac yn rhanbarthol yn cyrraedd carfan debyg o ddefnyddwyr i wasanaethau cynghori eraill. Mae’r rhan fwyaf o gleientiaid yn fenywod (62%), rhwng 25 a 55 (65%), a gwyn (91%). Mae gan o leiaf chwarter y cleientiaid anabledd, ond mae tystiolaeth i awgrymu bod hyn yn amcangyfrif rhy isel a bod gan nifer fawr o gleientiaid iechyd corfforol a meddyliol gwael ochr yn ochr â dangosyddion eraill o fod yn agored i niwed.
  • Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i LSLIP a’r gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae ffurfioli llwybrau atgyfeirio rhwng gwasanaethau a rhannu adnoddau arbenigol wedi galluogi sefydliadau i ehangu cyngor ar draws ardaloedd daearyddol ehangach a meysydd cyfreithiol, er mwyn darparu gwasanaeth mwy cyfannol sy’n gallu mynd i’r afael â holl broblemau’r cleient.
  • Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod y cyngor a’r gefnogaeth a ddarperir yn gwella canlyniadau’r cleientiaid, gan gynnwys cynyddu dealltwriaeth cleientiaid o sut i ddatrys eu problem a chynyddu hyder cleientiaid i weithredu’n brydlon. Mae hyn yn helpu i ddatrys problemau yn gynharach, cyn iddynt gyrraedd y llys neu’r tribiwnlys.

Bydd rhagor o ddata’n cael ei gasglu drwy gydol oes LSLIP ac adroddir ar y tueddiadau hyn yn y gwerthusiad terfynol.

Nodiadau:

Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y Cynllun Gweithredu Cymorth Cyfreithiol a oedd yn amlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i weledigaeth newydd ar gyfer cymorth cyfreithiol, ar sail ymyriadau cynharach. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, roedd y Cynllun Gweithredu Cymorth Cyfreithiol yn cynnwys sawl ymrwymiad i dreialu a gwerthuso gwahanol fathau o gymorth cyfreithiol cynnar, er mwyn deall yn well pa ymyriadau sy’n gweithio orau, pryd, ac i bwy. Ymysg yr ymrwymiadau hyn yr oedd yr addewid i gynyddu cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y Strategaeth Cymorth i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain o £1.45 miliwn y flwyddyn i £3 miliwn am ddwy flynedd.

Darperir y cyllid ychwanegol hwn, sef y grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain, gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn partneriaeth â’r Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder. Mae’r Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder yn fudiad elusennol sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn y maes cymorth cyfreithiol, a phrofiad sylweddol o reoli grantiau ar draws y sector cynghori.

Bu’r Weinyddiaeth Cyfiawnder a’r Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder yn cydweithio’n agos i ddatblygu’r grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain (LSLIP), sy’n gwella’r cymorth cyfreithiol sydd ar gael ledled Cymru a Lloegr drwy ariannu gwasanaethau sydd wedi’u ehangu, uwchraddio neu rai newydd sy’n cefnogi’r ymyriadau cynharaf posibl ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain.

Cyhoeddwyd ar 26 January 2022