Stori newyddion

Gweithredu diwydiannol yn DVLA: Dydd Mercher 2 Mehefin i ddydd Sadwrn 5 Mehefin

Y dyddiadau a drefnwyd ar gyfer gweithredu diwydiannol yn DVLA a sut y gallai effeithio ar ein gwasanaethau.

Mae gweithredu diwydiannol wedi’i drefnu yn DVLA rhwng dydd Mercher 2 Mehefin a dydd Sadwrn 5 Mehefin a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar wasanaethau Canolfan Gyswllt DVLA. Yn ystod yr amser hwn, rydym yn eich cynghori i beidio â ffonio ein canolfan gyswllt.

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael a nhw yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i ymdrin â ni. Am wybodaeth ac i gael mynediad at ein gwasanaethau, ewch i www.gov.uk/browse/driving.

Cyhoeddwyd ar 1 June 2021