Stori newyddion

Gweithredu diwydiannol yn DVLA: Dydd Mawrth 4 Mai i ddydd Gwener 7 Mai

Y dyddiadau a drefnwyd ar gyfer gweithredu diwydiannol yn DVLA a sut y gallai effeithio ar ein gwasanaethau.

Mae gweithredu diwydiannol wedi’i drefnu yn DVLA rhwng dydd Mawrth 4 a dydd Gwener 7 Mai a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar wasanaethau DVLA. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n debygol y byddwch yn profi oedi gyda’r ceisiadau papur a anfonwch atom ac os ydych yn ceisio cysylltu â’n canolfan gyswllt.

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael a nhw yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i ymdrin â ni. I gael gwybodaeth ac i gael mynediad at ein gwasanaethau, ewch i www.gov.uk/browse/driving.

Cyhoeddwyd ar 30 April 2021