Stori newyddion

Gweithredu diwydiannol yn DVLA: Dydd Llun 7 Mehefin i ddydd Sadwrn 12 Mehefin

Y dyddiadau a drefnwyd ar gyfer gweithredu diwydiannol yn DVLA a sut y gallai effeithio ar ein gwasanaethau.

Mae gweithredu diwydiannol wedi’i drefnu yn DVLA rhwng dydd Llun 7 Mehefin a dydd Sadwrn 12 Mehefin a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar wasanaethau canolfan gyswllt DVLA. Yn ystod yr amser hwn, rydym yn eich cynghori i beidio â ffonio ein canolfan gyswllt.

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael a nhw yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i ymdrin â ni. Am wybodaeth ac i gael mynediad at ein gwasanaethau, ewch i www.gov.uk/browse/driving

Cyhoeddwyd ar 6 June 2021