Stori newyddion

Cofrestrfa Tir EF yn ceisio barn ar ei ffïoedd

Mae’r sefydliad yn ceisio barn ar yr egwyddorion ar gyfer gosod ffïoedd, gan gynnwys ei wasanaethau data.

  • Mae Cofrestrfa Tir EF yn adolygu’r strwythur sy’n sail i’r ffordd caiff ffïoedd eu pennu.
  • Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar egwyddorion allweddol cynyddu’r ffyrdd o gyrchu data a symleiddio ffïoedd.
  • Mae’r alwad am dystiolaeth ar agor am 4 wythnos, gan gau ar 5 Ebrill 2024.

Heddiw (8 Mawrth 2024) mae Cofrestrfa Tir EF yn lansio galwad am dystiolaeth Strwythur Ffïoedd a Chodi Tâl ar gyfer y Dyfodol fel rhan o adolygiad o’r dull presennol o bennu ffïoedd ar gyfer ei data a’i gwasanaethau. Mae llawer o’r farn bod y strwythur ffïoedd a chodi tâl presennol yn gymhleth. Fodd bynnag, nid yw wedi ei ddiwygio’n sylweddol ers dechrau’r sefydliad ym 1862.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar sut gellir gwella strwythur ffïoedd a chodi tâl Cofrestrfa Tir EF trwy ofyn i ymatebwyr ateb cwestiynau yn seiliedig ar dair thema.

  • Moderneiddio a symleiddio’r strwythur ffïoedd.
  • Sicrhau bod ffïoedd yn deg ac yn rhesymol.
  • Cefnogi’r agenda gwybodaeth am dir ac eiddo ac annog arloesedd trwy ddulliau gwell a mwy agored o gyrchu’n data.

Bydd yr alwad am dystiolaeth yn para tan 5 Ebrill. Ar ôl hynny, bydd y sefydliad yn ymateb yn fanwl ar gamau nesaf yr adolygiad.

Dywedodd Simon Hayes, Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir:

Mae ein strwythur ffïoedd a chodi tâl wedi dod yn ddiangen o gymhleth. Rydym am geisio barn cynulleidfa eang i sicrhau bod y ffordd rydym yn codi tâl am ein gwasanaethau’n cefnogi’n cwsmeriaid yn ogystal â chyflawni’n Strategaeth 2022+.

Gwybodaeth bellach

I ddarllen yr ymgynghoriad, ewch i Strwythur ffïoedd a chodi tâl Cofrestrfa Tir EF.

Cyhoeddwyd ar 8 March 2024