Stori newyddion

Gwobrau Tystysgrifau Teilyngdod Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi 2027 i 2028

Mae enwebiadau bellach yn cael eu derbyn ar gyfer gwobrau Tystysgrif Teilyngdod Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi 2027 a 2028.

Welsh Lord-Lieutenant logo. Copyright: RFCA for Wales.

Mae’r gwobrau’n cydnabod gwasanaeth eithriadol milwyr wrth gefn a gwirfoddolwyr sy’n oedolion yn y cadetiaid ac fe’u bwriedir i ategu’r anrhydeddau a roddir gan y Brenin yn y Flwyddyn Newydd a’r Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd.

Bydd yr Arglwydd Raglawiaid yn dosbarthu’r gwobrau hyn mewn 8 seremoni ym mhob un o siroedd wedi’u cadw Cymru ar y dyddiadau canlynol:

2027

  • Dyfed - 14 Ionawr, Marics Picton, Caerfyrddin
  • Gwent - 28 Ionawr, Chapman VC House, Cwmbrân
  • Gorllewin Morgannwg - 18 Chwefror, Tŷ John Chard VC, Abertawe
  • Clwyd - 4 Mawrth, Marics Hightown, Wrecsam

2028

  • Powys - I’w gadarnhau
  • Morgannwg Ganol - I’w gadarnhau
  • De Morgannwg - I’w gadarnhau
  • Gwynedd - I’w gadarnhau

Dylid cyflwyno enwebiadau gan Swyddogion Rheoli Unedau Wrth Gefn, Swyddogion Ardal y Corfflu Cadetiaid Môr, Cadlywyddion Sirol Lluoedd Cadetiaid y Fyddin, Asgell-Gomanderiaid Cadetiaid Awyr yr RAF a Chadlywyddion y Llu Cadetiaid Cyfun.

Gellir enwebu’r bobl ganlynol am wobrau:

  • Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Wrth Gefn
  • Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion sy’n gwasanaethu gyda’r Cadetiaid
  • Gwirfoddolwyr Sifil sy’n gwasanaethu gyda’r Cadetiaid
  • Gweithwyr sifil sy’n cefnogi’r Lluoedd Wrth Gefn/Cadetiaid
  • Milwyr rheolaidd sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Cadetiaid
  • Aelodau a staff y Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid

I enwebu unigolyn ar gyfer Tystysgrifau Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw, llenwch a chyflwynwch y Ffurflen Tystysgrif Teilyngdod.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Ebrill 2026 show all updates
  1. Updating the dates of the upcoming Lord Lieutenant Certificates of Merit awards for 2027 and 2028.

  2. Added nomination deadlines and locations for the 2026 awards, and confirmed dates for the 2027 awards.

  3. Updated nominations deadline for the 2025 award ceremonies.

  4. Added translation