Datganiad i'r wasg

Cwsmeriaid Cymorth i Gynilo yn cael £146 miliwn mewn taliadau bonws

Mae CThEF yn annog cwsmeriaid i gofrestru ar gyfer Cymorth i Gynilo, sef cynllun cynilo’r llywodraeth, ar ôl datgelu bod cynilwyr wedi rhannu £146 miliwn mewn taliadau bonws.

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyhoeddi fod cwsmeriaid Cymorth i Gynilo yn cael £146 miliwn mewn taliadau bonws ers lansio’r cynllun ym mis Medi 2018, a’i fod yn annog unigolion i gymryd mantais o’r cynllun cynilo hael ar Ddiwrnod Cynilo’r Byd (31 Hydref).

Cynllun cynilo’r llywodraeth yw Cymorth i Gynilo, i’r sawl sy’n ennill incwm isel ac yn cynnig taliad bonws o 50% i gynilwyr, hyd at £1,200 dros gyfnod hyd at bedair blynedd. 

Mae’r ffigurau diweddaraf yn datgelu fod bron i 450,000 o gwsmeriaid wedi agor cyfrif Cymorth i Gynilo rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2023, gyda bron i £372.5 miliwn wedi’u talu i gyfrifon yn ystod yr amser yna.

Mae’n cymryd llai na phum munud i agor cyfrif. Gall cwsmeriaid wirio cymhwysedd ac agor cyfrif ar GOV.UK neu drwy ap CThEF.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

Mae cannoedd o filoedd o bobl yn elwa wrth ddefnyddio Cymorth i Gynilo. Mae’n ffordd wych o gynilo beth bynnag y gallwch a bydd y llywodraeth yn ychwanegu at eich cynilion gan 50%. Mae’n gyflym ac yn hawdd i wneud cais ar-lein neu drwy ap CThEF. Chwiliwch am ‘Help to Save’ ar GOV.UK i ddysgu rhagor a gwneud cais heddiw.

Mae CThEF wedi paratoi fideo ar YouTube i helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gymorth i Gynilo.

Help to Save savings explained

Gall cwsmeriaid agor cyfrif Cymorth i Gynilo os ydynt yn cael:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant a bod ganddynt hawl i Gredyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol a bod ganddynt (ynghyd â’r partner, os yw’n gais ar y cyd) gyflog clir o £722.45 neu fwy yn ystod y cyfnod asesu misol diwethaf

Gall cynilwyr dalu rhwng £1 a £50 y mis i mewn i’r cyfrif. Bydd cynilwyr yn ennill 50 ceiniog ychwanegol am bob £1 a gynilir, a thelir taliadau bonws yn yr ail a’r bedwaredd flwyddyn ers agor y cyfrif. Mae’r taliad bonws yn berthnasol i’r swm uchaf a gynilir yn ystod y cyfnod. Bydd cynilwyr sy’n talu’r uchafswm, sef £2,400, i mewn i’r cyfrif yn cael bonws o £1,200 gan y llywodraeth.

Mae bron i 383,000 o ddeiliaid cyfrifon ledled y DU wedi talu i mewn i’w cyfrifon, a’r taliad misol cyfartalog yw £48. Mae mwy na 90% o gynilwyr yn buddsoddi’r uchafswm o £50 bob mis. Gallant wneud cymaint o daliadau ag yr hoffent bob mis, a hynny drwy gerdyn debyd, trosglwyddiad banc neu archeb sefydlog. Gellir tynnu arian o’r cyfrif ar unrhyw adeg, er y gallai hyn effeithio ar y taliadau bonws o 50%.

Gall cwsmeriaid reoli eu cyfrif cynilo yn hawdd ar-lein neu drwy ap CThEF. Gallant wirio eu balans, bwrw golwg dros gynilion a manylion bonws, darganfod pryd y caiff bonws ei dalu iddynt, darllen unrhyw negeseuon, sefydlu archeb sefydlog neu dynnu arian o’r cyfrif.

Meddai Victoria Todd, Pennaeth y Grŵp Diwygio Treth Incwm Isel:

I’r rheiny sy’n gallu cymryd rhan, mae’r cyfrif Cymorth i Gynilo yn gynllun cynilo deniadol iawn, yn enwedig pan fydd y cynilwr yn gallu manteisio i’r eithaf ar eu taliadau bonws. Gallant wneud hyn drwy dalu’r uchafswm i mewn bob mis a thrwy beidio â thynnu unrhyw arian o’r cyfrif. Gall y rhai sy’n gymwys barhau i gael taliadau bonws, hyd yn oed os na allant gynilo’r uchafswm. Dyna pam y gwnaethom groesawu ymestyn y cynllun i Ebrill 2025 yn ddiweddar.

Mae’r llywodraeth yn cynnig Help i Gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael gwybod pa gymorth gyda chostau byw y gall unigolion fod yn gymwys ar ei gyfer.

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am Gymorth i Gynilo

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf hyd at fis Mawrth 2023 ynghylch ‘Cymorth i Gynilo’

Nifer y cyfrifon a agorwyd hyd at 31 Mawrth 2023 Cyfanswm gwerth y taliadau i mewn, a’r ganran o’r cyfanswm
Cyfanswm ar gyfer y DU 449,450 372,449,000 (100%)
Lloegr 381,600 317,001,000 (85%)
Gogledd-ddwyrain Lloegr 20,150 15,887,000 (4%)
Gogledd-orllewin Lloegr 59,400 48,703,000 (13%)
Swydd Efrog a’r Humber 43,700 36,038,000 (10%)
Dwyrain Canolbarth Lloegr 37,650 31,509,000 (8%)
Gorllewin Canolbarth Lloegr 43,100 35,030,000 (9%)
Dwyrain Lloegr 38,600 32,302,000 (9%)
Llundain 46,550 38,338,000 (10%)
De-ddwyrain Lloegr 51,900 42,810,000 (11%)
De-orllewin Lloegr 40,600 36,383,000 (10%)
Cymru 22,000 18,248,000 (5%)
Yr Alban 31,600 25,662,000 (7%)
Gogledd Iwerddon 13,950 11,311,000 (3%)

Lansiwyd Cymorth i Gynilo ym mis Medi 2018 ac roedd i fod i ddod i ben ym mis Medi 2023, ond mae wedi’i ymestyn tan fis Ebrill 2025. Cyhoeddwyd yr estyniad yng Nghyllideb y Gwanwyn ar 15 Mawrth 2023.

Sut mae’r taliadau bonws yn gweithio:

  • ar ôl y 2 flynedd gyntaf, bydd y cwsmer yn cael bonws cyntaf os yw wedi bod yn defnyddio’i gyfrif i gynilo. Bydd y bonws hwn yn 50% o’r balans uchaf sydd wedi’i gynilo.
  • ar ôl 4 blynedd, bydd yn cael bonws terfynol os yw’n parhau i gynilo. Bydd y bonws hwn yn 50% o’r gwahaniaeth rhwng 2 swm:
    • y balans uchaf a gynilwyd yn y 2 flynedd gyntaf (blynyddoedd 1 a 2)
    • y balans uchaf a gynilwyd yn y 2 flynedd olaf (blynyddoedd 3 a 4)
  • os na fydd ei falans uchaf yn cynyddu, ni fydd yn ennill bonws terfynol.
  • mae’r bonws yn cael ei dalu i’w gyfrif banc, ac nid i’w gyfrif Cymorth i Gynilo.
Cyhoeddwyd ar 31 October 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 October 2023 + show all updates
  1. Welsh translation now available.

  2. First published.