News story

Gymru a gwaredu daearegol

Radioactive Waste Management Limited (RWM) ydi'r corff cyhoeddus a benodwyd gan Lywodraeth y DU i gyflawni gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol actifedd uwch (GAU) y DU. Bydd adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol (CGD) yn golygu darganfod safle technegol addas, gyda chymuned yn barod i'w letya.

Mae gan Lywodraeth Cymru ei pholisi ei hun ar warediad parhaol gwastraff ymbelydrol actifedd uwch, sy’n gydnaws â pholisi Llywodraeth y DU. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn datgan yn glir mai dim ond os y bydd cymuned Gymreig yn dewis lletya CGD y caiff un ei adeiladu yng Nghymru.

RWM fydd y partner cyflawni os bydd cymuned Gymreig yn cynnig ei hun. Rydym ar hyn o bryd yn datblygu gwefan newydd fydd yn cynnwys gwybodaeth benodol i Gymru, a bydd ar gael yn y Gymraeg a Saesneg. Yn y cyfamser, os hoffech gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf, tanysgrifiwch i’n e-fwletin – dim ond yn Saesneg mae ar gael ar hyn o bryd.

Mae’r dudalen hon ar gael yn Saesneg hefyd.

Published 3 January 2017