Datganiad i'r wasg

Y Llywodraeth i ymgynghori ar ddatganoli Treth Stamp ar Dir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ar y cynnig i ddatganoli Treth Stamp ar Dir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, meddai Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, wrth y Senedd heddiw.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The devolution of Stamp Duty Land Tax

The devolution of Stamp Duty Land Tax

Yn dilyn yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk), mae’r Llywodraeth wedi penderfynu ymgynghori, yn enwedig â’r gymuned fusnes, o ystyried natur boblog y ffin rhwng Cymru a Lloegr a’r goblygiadau posibl i’r diwydiant adeiladu a’r farchnad tai.

Bydd hyn yn llywio ymhellach ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Comisiwn ar gynyddu atebolrwydd ariannol y Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:

Mae hwn yn gam olaf pwysig i’n galluogi i ymateb i argymhellion Comisiwn Silk. Mae achos cadarn o blaid datganoli liferi ariannol ac economaidd i Lywodraeth Cymru, ond mae’n briodol ein bod yn deall yn llwyr yr effeithiau posibl er mwyn i ni sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn briodol i Gymru ac i’r DU gyfan”.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae i’r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn Silk yn Rhan I o’i waith, oblygiadau helaeth nid dim ond i Gymru, ond i’r DU gyfan, felly mae’n hanfodol ein bod yn ystyried ei holl oblygiadau’n llawn.

Dylai’r holl bartïon â diddordeb achub ar y cyfle hwn i fynegi eu barn yn yr ymgynghoriad byr hwn ar ganlyniadau posibl datganoli Treth Stamp ar Dir, i helpu i lywio’n llawn ymateb y Llywodraeth i adroddiad cyntaf y Comisiwn”.

Nodiadau i Olygyddion

Mae’r Comisiwn annibynnol ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) wedi cael ei sefydlu i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru. Bydd yn gwneud ei waith mewn dwy ran: •Rhan I: atebolrwydd ariannol – Adolygu’r achos dros ddatganoli pwerau ariannol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai’n gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad. Adroddodd y Comisiwn yn ôl ar ei ganfyddiadau ar Ran I ar 19 Tachwedd 2012. •Rhan II: pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well. Bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau yn Rhan II erbyn Gwanwyn 2014.

Cyhoeddwyd ar 17 July 2013