Stori newyddion

Y llywodraeth yn cyhoeddi y bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dod yn orfodol fesul tipyn

Bydd gan landlordiaid ac unigolion hunangyflogedig fwy o amser i baratoi ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm (ITSA), yn dilyn cyhoeddiad heddiw (19 Rhagfyr 2022) gan y llywodraeth.

Bydd gan landlordiaid ac unigolion hunangyflogedig fwy o amser i baratoi ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm (ITSA), yn dilyn cyhoeddiad heddiw (19 Rhagfyr 2022) gan y llywodraeth.

Mae’r llywodraeth yn deall bod landlordiaid ac unigolion hunangyflogedig yn wynebu amgylchedd economaidd heriol ar hyn o bryd, a bod y newid i MTD ar gyfer ITSA yn cynrychioli newid sylweddol i drethdalwyr ac i CThEF o ran sut y caiff incwm o eiddo a hunangyflogaeth ei adrodd, ac felly mae’n rhoi cyfnod hirach i baratoi ar gyfer MTD. Bydd y defnydd gorfodol o feddalwedd yn cael ei gyflwyno’n raddol, felly, o fis Ebrill 2026 ymlaen, yn hytrach nag o fis Ebrill 2024 ymlaen.

O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn ofynnol i landlordiaid ac unigolion hunangyflogedig, sydd ag incwm o fwy na £50,000, gadw cofnodion digidol a darparu diweddariadau chwarterol i CThEF ynghylch eu hincwm a gwariant, a hynny drwy feddalwedd sy’n cydweddu ag MTD. Bydd yn rhaid i’r rheini sydd ag incwm rhwng £30,000 a £50,000 wneud hyn o fis Ebrill 2027 ymlaen. Bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn gallu ymuno’n wirfoddol ymlaen llaw , sy’n golygu y byddant yn gallu cael gwared ar wallau cyffredin ac arbed amser wrth reoli eu materion treth.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi adolygiad o anghenion busnesau sy’n llai o faint, yn enwedig y rhai hynny sydd o dan y trothwy incwm o £30,000. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y dylai MTD ar gyfer ITSA gael ei lunio i ddiwallu anghenion y busnesau hyn sy’n llai o faint, a’r ffordd orau iddynt gyflawni eu hymrwymiadau o ran Treth Incwm. Bydd hefyd yn llywio’r dull o weithredu ar gyfer unrhyw gyflwyniad pellach o MTD ar gyfer ITSA ar ôl mis Ebrill 2027.

Ni chaiff defnydd gorfodol o MTD ar gyfer ITSA ei ymestyn i bartneriaethau cyffredinol yn 2025 fel y cyhoeddwyd yn flaenorol. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno MTD ar gyfer ITSA i bartneriaethau yn unol â’i gweledigaeth a nodwyd yn y Strategaeth Gweinyddu Trethi.

Meddai Victoria Atkins, yr Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys:

Mae’n iawn ein bod ni’n cymryd yr amser i weithio gyda’n gilydd i wneud y mwyaf o fanteision Troi Treth yn Ddigidol i fusnesau bach drwy roi’r newid ar waith yn raddol. Mae’n bwysig sicrhau bod hyn yn gweithio i bawb: trethdalwyr, asiantau treth, datblygwyr meddalwedd, yn ogystal â CThEF.

Dylai busnesau llai, yn benodol, allu elwa ar y manteision sy’n dod yn sgil mwy o ddigideiddio o ran Treth Incwm mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion. Dyna pam rydyn ni hefyd yn cyhoeddi heddiw adolygiad i sefydlu’r ffordd orau o wneud hyn.

Meddai Jim Harra, Prif Weithredwr a Phrif Ysgrifennydd Parhaol Cyllid a Thollau EF:

Mae CThEF wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol fel rhan hollbwysig o’n strategaeth o ran digideiddio a moderneiddio’r system dreth, ond rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod ni’n cael hyn yn iawn ac yn ei gyflwyno’n effeithiol.

Bydd dull graddol o gyflwyno defnydd gorfodol o MTD ar gyfer Treth Incwm yn ein galluogi ni i weithio gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid sy’n landlordiaid neu’n hunangyflogedig yn gallu gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn.

Mae’r cyhoeddiad yn ymwneud ag MTD ar gyfer ITSA yn unig. Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW eisoes wedi’i roi ar waith ac mae’n dangos y manteision y mae dulliau digidol o weithio yn eu rhoi i fusnesau ac i’r system dreth.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae copi o’r Datganiad Ysgrifenedig Gweinidogol a wnaed gan Victoria Atkins, yr Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys, ar 19 Rhagfyr 2022 ar gael: https://questions-statements.parliament.uk/written-statements/detail/2022-12-19/hcws465
  2. O dan MTD ar gyfer ITSA, bydd busnesau, unigolion hunangyflogedig a landlordiaid yn cadw cofnodion digidol, ac yn anfon crynodeb chwarterol o incwm a threuliau eu busnes i CThEF gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu ag MTD. Mewn ymateb, byddant yn cael cyfrifiad treth amcangyfrifedig, yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd, i’w helpu i gyllidebu ar gyfer eu treth. Ar ddiwedd y flwyddyn, gallant ychwanegu unrhyw wybodaeth nad yw’n ymwneud â’r busnes a chwblhau eu materion treth gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol. Bydd hyn yn disodli’r angen am Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
  3. Caiff arweiniad ar GOV.UK ynghylch MTD ar gyfer ITSA ei ddiweddaru’n fuan.
  4. Cyn cyhoeddiad heddiw, byddai MTD ar gyfer ITSA wedi dod yn orfodol o fis Ebrill 2024 ymlaen ar gyfer cwsmeriaid â chyfanswm incwm gros o fwy na £10,000 mewn blwyddyn dreth, a hynny o ffynonellau hunangyflogaeth ac eiddo, a byddai wedi dod yn orfodol ar gyfer partneriaethau o 2025 ymlaen.
  5. Mae’r Strategaeth Gweinyddu Trethi ar gael yn: www.gov.uk/government/publications/tax-administration-strategy
  6. Dilynwch Swyddfa Wasg CThEF ar Twitter @HMRCpressoffice
Cyhoeddwyd ar 19 December 2022