Stori newyddion

Byddwch yn Barod i Ymgeisio am Gyllid i Fyfyrwyr

Chris Larmer, Cyfarwyddwr Gweithredol SLC, Gweithrediadau yn cynghori myfyrwyr o baratoi i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr

Yn ystod yr wythnosau i ddod, bydd y gwasanaeth i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 22/23 yn agor i fyfyrwyr israddedig amser llawn newydd ac sy’n dychwelyd yng Nghymru a Lloegr.

Y llynedd, fe alluogom fwy o fyfyrwyr nag erioed i fuddsoddi yn eu dyfodol trwy fynediad at addysg uwch ac rydym y rhagweld blwyddyn brysur arall o’n blaenau. Ar gyfer myfyrwyr newydd yn benodol, mae yna lawer i’w ystyried. Bydd nifer eisoes wedi cwblhau eu ceisiadau UCAS a heb os yn llawn cyffro, os ychydig yn betrus, am beth sydd o’u blaenau.

Hoffem annog pob myfyriwr newydd i gael y cychwyn gorau posib i’w taith addysg uwch trwy sicrhau bod eu cyllid i fyfyrwyr yn ei le erbyn i’r tymor gychwyn. I’w cefnogi gyda hyn, rydyn ni wedi lansio adnoddau ar-lein newydd i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr i’w helpu i baratoi ar gyfer pan fydd y gwasanaeth ymgeisio yn agor.

Gall myfyrwyr newydd hefyd gofrestru ar gyfer ein rhestrau postio Student Finance England (SFE) a Chyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) i fod ymhlith y cyntaf i wybod pan fydd eu gwasanaeth ymgeisio yn agor. Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid i fyfyrwyr gael lle wedi’i gadarnhau mewn prifysgol neu goleg i wneud cais am gyllid myfyrwyr, gallant wneud cais pan fydd y gwasanaeth yn agor gan ddefnyddio’r dewis a ffefrir ganddynt a diweddaru eu cais yn ddiweddarach os bydd amgylchiadau’n newid.

Dylai myfyrwyr sy’n dychwelyd gofio bod yn rhaid iddynt ailymgeisio am eu cyllid i fyfyrwyr pob blwyddyn academaidd a byddwn mewn cysylltiad â nhw pan fydd yn amser iddynt wneud hyn.

Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiad rhagorol i gwsmeriaid, gan gynnig mynediad i wasanaeth greddfol, dibynadwy a chefnogol ar bob cam o daith cyllid myfyriwr. I’w helpu i baratoi ar gyfer agor y cyfnod ymgeisio, dwi wedi darparu rhestr o awgrymau da i wneud y broses mor llyfn â phosibl.

Cyhoeddwyd ar 17 February 2022