Rhifau cofrestru cerbydau - cyswllt pêl-droed...
Gyda phob cefnogwr pêl-droed ar fin mwynhau gwledd ym Mrasil, heddiw mae’r DVLA wedi rhyddhau’r deg rhif cofrestru a werthwyd gan yr asiantaeth am y prisiau uchaf.

WE57 HAM sydd ar y brig gyda thîm arall o Lundain, AR53 NAL yn ail ar y cyd â HU11 CTY. Yng nghanol y tabl ceir EN61 AND yn y seithfed safle gyda PRE 570N ar y gwaelod yn y degfed safle.
Rhifau cofrestru pel-droed y deg uchaf
Rhifau cofrestru | Pris | Dyddiad gwerthu |
---|---|---|
WE57 HAM | £57,000 | Hydref 2007 |
AR53 NAL | £36,000 | Hydref 2004 |
HU11 CTY | £36,000 | Mawrth 2013 |
V1 LLA | £35,000 | Tachwedd 2000 |
ALB 10N | £19,000 | Mawrth 1990 |
DER 8Y | £14,500 | Mai 2003 |
EN61 AND | £12,000 | Gorffennaf 2012 |
S41 NTS | £11,500 | Mawrth 2003 |
UTD 80Y | £10,000 | Mai 2011 |
PRE 570N | £9,400 | Mai 2003 |
Ers i’r DVLA gychwyn gwerthu rhifau cofrestru personol 25 o flynddoedd yn ôl, codwyd £2 biliwn ar gyfer Trysorlys Ei Mawrhydi.
Dywedodd y Gweinidog Ffyrdd, Stephen Hammond:
Mae nifer fawr o gefnogwyr pêl-droed yn dymuno dangos eu cefnogaeth at eu tîm mewn amryw o ffyrdd, ac mae rhoi rhif cofrestru ar eu cerbyd sydd yn amlygu’r cyswllt hwn yn ffordd hwyliog o wneud hynny. Fel cefnogwr brwd o dîm Southampton byddaf yn gwylio gemau Lloegr gyda balchder.
Er bod y rhifau hyn eisoes wedi eu gwerthu, mae nifer o rifau eraill sy’n gysylltiedig â Chwpan y Byd ar gael gan y DVLA gyda phrisiau’n cychwyn ar £399.
-Diwedd-
Nodiadau i olygyddion
- Y rhif cerbyd drutaf erioed a werthwyd gan y DVLA oedd 1 D a werthwyd am £352,411 yn 2009.
- Mae’n anghyfreithlon camddehongli cofrestriad cerbyd ar rif cofrestru. Mae’r rheolau sy’n dynodi’r ffordd gywir i’w harddangos ar gael yn y canllawiau ar arddangos rhifau cofrestru.
- Ni chaniateir defnyddio rhif cerbyd mewn modd sydd yn gwneud i’r cerbyd ymddangos yn un mwy diweddar nag ydyw.
- Yn ogystal â’r rhai sydd ar werth ar y wefan, gall detholiad o rifau gael eu gwerthu mewn arwerthiannau DVLA yn y dyfodol.
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407