Yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn cyhoeddi eu pecyn diweddaraf o ganllawiau i gefnogi busnesau bwyd arloesol
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cyhoeddi pecyn newydd o ganllawiau atodol i fusnesau sy’n datblygu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCPs). Dyma’r garreg filltir ddiweddaraf yn y rhaglen blwch tywod ar CCPs.
Image of a cell cultivated kebab and a regular chicken fillet
Mae’r canllawiau’n trafod y trefniadau ar gyfer gwaith awdurdodi rheoleiddiol ac ar gyfer asesu cydrannau cyfryngau twf a thocsicoleg. Gyda’i gilydd, mae’r canllawiau’n cynnig cyngor cliriach a manylach i fusnesau bwyd arloesol ar y rheoliadau bwyd presennol a sut maen nhw’n berthnasol i gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Y bwriad yw y bydd y canllawiau’n helpu’r busnesau hyn i baratoi ceisiadau cryfach a deall y safonau y mae’n rhaid iddyn nhw eu bodloni er mwyn dod â chynhyrchion i farchnad Prydain Fawr yn ddiogel.
Dywedodd Dr Thomas Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesi’r ASB:
Y nod wrth gyhoeddi pob cyfres o ganllawiau yw darparu mwy o eglurder a gwneud yn siŵr bod y broses o awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad yn gyson i gwmnïau sy’n datblygu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, a hynny wrth sicrhau bod diogelwch defnyddwyr yn aros wrth wraidd popeth a wnawn. Drwy’r rhaglen blwch tywod, rydym yn adeiladu cyd-ddealltwriaeth o ran sut mae rheoliadau bwyd yn berthnasol i gynhyrchion gwirioneddol newydd, ac yn troi’r dealltwriaeth hwnnw’n ganllawiau ymarferol y gall y sector cyfan gael budd ohonynt.
Mae’r canllawiau ar waith awdurdodi rheoleiddiol yn amlinellu’r modd y mae’r fframwaith ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig yn berthnasol i gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, gan gynnwys sut i ymdrin â newidiadau i gynnyrch awdurdodedig. Mae’r canllawiau ar gyfryngau twf a thocsicoleg yn rhoi cyfarwyddyd gwyddonol manwl ar asesu peryglon diogelwch sy’n gysylltiedig â chydrannau cyfryngau twf, gan helpu busnesau sy’n paratoi coflenni ar gyfer adolygiad rheoleiddiol.
Dyma’r drydedd gyfres o ganllawiau sydd wedi’u cyhoeddi drwy’r rhaglen blwch tywod, a gafodd ei lansio ym mis Chwefror 2025 ac a fydd yn parhau tan fis Chwefror 2027. Drwy’r rhaglen, mae’r ASB ac FSS yn gweithio’n uniongyrchol gyda busnesau i feithrin dealltwriaeth rheoleiddiol o’r cynhyrchion hyn, gan ddefnyddio’r mewnwelediad a gafwyd i gynhyrchu canllawiau ymarferol ar gyfer y sector ehangach.
Yn ogystal â’r canllawiau blwch tywod, mae’r ASB wedi cyhoeddi ymchwil yn ddiweddar ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, gan gynnwys adolygiad o’r dulliau dadansoddol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd a sut gall symudiad genetig (‘genetic drift’) effeithio ar ddiogelwch cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Bydd hyn yn ddefnyddiol i ymgeiswyr sy’n ystyried y dystiolaeth i’w chynnwys yn eu ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad.
Gall busnesau gael mynediad at yr holl ganllawiau blwch tywod ar Hyb Canllawiau Bwyd Arloesol yr ASB. Gallant hefyd ofyn am gymorth gyda’u ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd i’w rhoi ar y farchnad drwy Wasanaeth Cymorth Busnes y blwch tywod ar GOV.UK.