Stori newyddion

Pum peth y mae'n rhaid i gwsmeriaid patentau eu gwneud ar gyfer y gwasanaeth One IPO newydd

Bydd gwasanaeth patentau newydd One IPO yn cael ei lansio cyn bo hir. Mae pum peth y mae'n rhaid i chi eu gwneud nawr i baratoi ar gyfer lansio'r gwasanaeth newydd.

1. Chwiliwch am ddiweddariadau ynghylch pryd mae’r gwasanaeth newydd yn cael ei lansio

Bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cyhoeddi dyddiad lansio 6-8 wythnos cyn i’r gwasanaeth lansio. Disgwylir i hyn fod yn gynnar yn 2026, pan fydd y llywodraeth ganolog wedi cwblhau ei hasesiad i sicrhau ei fod yn bodloni’r safonau ansawdd uchaf.  

Byddwn yn cyhoeddi’r dyddiad lansio ar GOV.UK a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol.

2. Sefydlu’ch cyfrif IPO ar gyfer y lansiad

Y cam cyntaf i gael mynediad at y gwasanaeth One IPO newydd yw sefydlu’ch cyfrif IPO. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda i estyn allan at y cwsmeriaid sydd â llawer o batentau yn y DU i’w helpu i wneud hyn a sicrhau bod ganddyn nhw’r patentau cywir wedi’u cysylltu â chyfrif eu cwmni.  

Yna bydd yr IPO yn gwahodd gweinyddwr enwebedig i greu cyfrif. Gall y gweinyddwr wahodd pobl yn eich cwmni i ddefnyddio’r gwasanaeth. 

Bydd cwsmeriaid sydd â nifer lai o batentau yn y DU (fel arfer, y rhai sy’n berchen ar neu’n rheoli llai na 200), yn gallu creu eu cyfrif trwy wefan yr IPO pan fydd y gwasanaeth yn lansio i’r cyhoedd. 

Os ydych chi’n credu y dylai’r IPO fod wedi bod mewn cysylltiad â’ch sefydliad ac nad ydym wedi gwneud hynny, cysylltwch â information@ipo.gov.uk

3. Deall beth sy’n newid

Bydd rhai o’r gwasanaethau rydych chi’n eu defnyddio ar hyn o bryd i wneud cais am batentau, gan gynnwys eOLF, yn dod i ben yn 2026.  

eOLF 

  • cynigir y gwasanaeth One IPO newydd i bob defnyddiwr eOLF presennol sydd eisiau mynediad ato erbyn diwedd 2025
  • dylai defnyddwyr eOLF gynllunio i ddechrau defnyddio’r gwasanaeth One IPO newydd o 1 Ionawr 2026, oherwydd ni fydd eOLF yn derbyn cymorth technegol gan yr EPO o’r dyddiad hwn
  • fodd bynnag, ni fyddwn yn tynnu’r gallu i wneud cais am batent y DU trwy eOLF i ffwrdd yn gynt nag sydd angen. Rydym yn bwriadu derbyn ceisiadau patent y DU drwy eOLF tan 1 Ebrill 2026 os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth One IPO am unrhyw reswm.
  • rhaid gwneud ceisiadau PCT gyda’r DU fel swyddfa dderbyn drwy ePCT o 1 Ionawr 2026

WebF 

  • bydd y gwasanaeth WebF yn cael ei ddisodli gan ein gwasanaeth One IPO newydd ar unwaith pan fydd yn lansio i’r cyhoedd

Ffeilio papur

  • byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau papur GB, PCT ac EP yn uniongyrchol i IPO’r DU. Bydd y ffurflenni’n edrych ychydig yn wahanol i adlewyrchu’r gwasanaethau newydd

4. Adnewyddwch eich tystysgrif feddal eOLF erbyn 30 Tachwedd 2025

Mae defnyddwyr y gwasanaeth eOLF yn defnyddio tystysgrifau meddal i gael mynediad at y gwasanaeth eOLF. Mae tystysgrifau meddal yn dod i ben ar ôl un flwyddyn.  

Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr wneud cais am dystysgrif feddal newydd cyn i’w hen un ddod i ben. Gallant wneud hyn drwy’r un broses ag y defnyddion nhw i ofyn am eu tystysgrif feddal flaenorol y llynedd. 

4a. Gofynnwch am dystysgrif feddal drwy e-bostio eOLFSoftCert@ipo.gov.uk erbyn 30 Tachwedd 2025. Bydd angen i chi roi eich enw, eich sefydliad a’ch cyfeiriad e-bost. 

4b. Gosodwch y dystysgrif feddal a ddarperir ar eich dyfais. 

4c. Cofrestrwch y dystysgrif feddal ar dudalen Sut i ffeilio gwefan yr IPO.

5. Darganfyddwch pa newidiadau mawr eraill sydd ar ddod:

Bydd yr IPO yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf gan ganolbwyntio ar newidiadau penodol y gall cwsmeriaid eu disgwyl gan y gwasanaeth One IPO,a sut i gael rhagor o wybodaeth.  

Mae’r rhain yn cynnwys manylion ynghylch sut mae’r cyfrifon IPO newydd yn gweithio, gwneud cais am batentau yn y gwasanaeth newydd a gwneud taliadau. Gallwch gael y diweddariadau hyn drwy dudalen we’r IPO ar GOV.UK, sianeli cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyr IP Connect.  

Dywedodd Andy Barlett, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, IPO :

Rydym yn dod yn agos iawn at lansio ein gwasanaeth patentau One IPO newydd, a fydd yn chwyldroi’r ffordd rydych chi’n rhyngweithio â’r IPO. Wrth i’r lansiad agosáu, mae yna rai pethau hanfodol y mae angen i bawb eu gwneud i baratoi ar gyfer y newid mawr iawn, ond cyffrous iawn hwn. Yn yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi llawer mwy o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl, a byddwn yma bob amser i ateb eich cwestiynau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â information@ipo.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Medi 2025