Datganiad i'r wasg

Sylw’r byd wedi’i hoelio ar Gymru wrth i Gaerdydd gynnal gornest rhwng gynnau mawr y byd bocsio

Annog cefnogwyr i gynllunio eu teithiau cyn y frwydr boblogaidd rhwng Joshua a Parker yn Stadiwm Principality

Bydd Anthony Joshua, pencampwr pwysau trwm y byd IBF a WBA yn wynebu Joseph Parker sy’n dal y teitl WBO o flaen tyrfa o 80,000 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd nos Sadwrn (31 Mawrth).

Mae cefnogwyr wedi cael eu rhybuddio i gynllunio eu taith ymlaen llaw ac mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi bod yn trafod â’r prif weithredwyr cludiant i sicrhau bod y noson yn rhedeg yn ddidrafferth.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hwn yn ddigwyddiad gwych sy’n dod i Gaerdydd, ac mae’r ddinas yn prysur ennill ei phlwyf fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer sawl digwyddiad chwaraeon mawr.

Fodd bynnag, mae’n bwysig bod cefnogwyr yn cynllunio ymlaen llaw ac yn ystyried yr holl ddewisiadau teithio mewn da bryd i wneud y mwyaf o’r profiad, ac i fwynhau’r hyn sydd gan ein prifddinas i’w gynnig.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi mynd yr ail filltir i sicrhau bod y prosesau cynllunio teithiau sylweddol sydd eu hangen ar gyfer y digwyddiadau mawr hyn yn eu lle.

Mae Network Rail yn trefnu gweithrediadau rheoli tyrfa lawn, ac mae gwybodaeth am deithio wedi cael ei hanfon at bawb sydd â thocyn. Mae rhagor o dacsis a bysiau nos wedi cael eu trefnu hefyd er mwyn sicrhau cyn lleied o giwio â phosib ar ôl y digwyddiad.

Mae GWR ac Arriva Trains Wales wedi bod yn cydweithio i gynllunio gwasanaethau, a bydd rhagor o wasanaethau yn cael eu darparu rhwng Caerdydd ac Abertawe. Fodd bynnag, mae’r cefnogwyr yn cael eu rhybuddio bod y trên olaf i Lundain yn gadael am 21:25, ac felly bydd angen i’r rheini sydd am ddychwelyd ar y noson wneud trefniadau gwahanol.

Bydd rhan fawr o rwydwaith rheilffyrdd Bryste wedi cau oherwydd gwaith peirianyddol sydd wedi’i gynllunio i leihau tagfeydd ac amseroedd teithio o fis Ionawr 2019 ymlaen. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GWR.

Oherwydd y prysurdeb yng nghanol y ddinas, bydd y ffyrdd o amgylch y stadiwm yn cau am 4pm, ac mae disgwyl iddynt agor am 1am y bore canlynol.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyrraedd y stadiwm, cau’r ffyrdd a chyfleusterau parcio a theithio, ewch i dudalen cyngor teithio Cyngor Caerdydd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 28 March 2018