Stori newyddion

Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer elusennau gwasanaeth sy’n cefnogi pobl drwy Gymru

Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn parhau gyda Llywodraeth y DU yn cynyddu cefnogaeth ar gyfer elusennau gwasanaeth drwy’r DU.

Soldiers marching

Soldiers marching

Mae bron i £6 miliwn o gyllid newydd yn cael ei gadarnhau i elusennau milwrol drwy’r DU, gan gynnwys Prosiect Cyn-filwyr y Bluebirds a Chanolfan Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Ceredigion.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cadarnhau heddiw y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ym mis Gorffennaf ynglŷn â rhyddhad treth ar gyfer busnesau sy’n cyflogi cyn-filwyr.

Heddiw, gall Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC) a’r Weinyddiaeth Amddiffyn gadarnhau y bydd 40 o elusennau’r lluoedd arfog sy’n cefnogi personél sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd drwy Gymru yn derbyn cyllid ychwanegol. Mae hwn yn rhan o becyn cymorth a gyhoeddwyd gan y Canghellor ym mis Ebrill er mwyn sicrhau y gall elusennau barhau â’u gwaith hanfodol yn ystod y pandemig.

Mae cyfanswm o 100 elusen yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael budd o bron i £6 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, gan amrywio o elusennau lleol bychain fel y VC Gallery yn Sir Benfro at sefydliadau mwy fel Cymorth i Arwyr.

Mae’r elusennau yn darparu cefnogaeth i gyn-filwyr a phersonél sy’n gwasanaethu mewn amrediad o feysydd gwahanol, gan gynnwys cyflogaeth, iechyd meddwl a llesiant, iechyd ac adferiad corfforol ynghyd â chefnogaeth i deuluoedd.

Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn cadarnhau y bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio’r mis nesaf ynghylch na fydd angen i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyflog unrhyw gyn-filwyr a gyflogir yn ystod y flwyddyn gyntaf mewn cyflogaeth sifilaidd. Mae hyn yn cyflawni ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU er mwyn annog busnesau i ddefnyddio ymhellach y sgiliau a’r profiad y gall cyn-filwyr ddod gyda nhw i’r busnesau.

Dywedodd Johnny Mercer, Gweinidog dros Amddiffyn Pobl a Chyn-filwyr:

Heddiw, rydym yn dathlu ac yn diolch i’n cyn-filwyr am y gwasanaeth neilltuol y maen nhw wed’i roi i’r wlad hon. Er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad, rydym yn symud ymlaen yn gyflym gyda materion y cyn-filwyr drwy’r llywodraeth, drwy Swyddfa Materion Cyn-filwyr. Rydw i wrth fy modd hefyd yn cadarnhau’r cyllid ychwanegol ar gyfer elusennau gwasanaeth er mwyn eu helpu nhw drwy bandemig Covid-19.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae miloedd o gyn-filwyr drwy Gymru wedi darparu gwasanaeth anhygoel yn ein Lluoedd Arfog. Ynghyd â’n personél presennol sy’n gwasanaethu a’u teuluoedd, maen nhw’n haeddu’r gefnogaeth orau bosibl.

Yn awr, fwy nag erioed; mae’n hanfodol bod gan elusennau gwasanaeth y cyllid a’r adnoddau cywir i ymgymryd â’u gwaith hanfodol gydag aelodau ein Lluoedd Arfog yn y gorffennol ac yn awr.

Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

Oni bai am y dynion a’r merched dewr sy’n gwasanaethu ac yn diogelu ein gwlad, ni fyddai gennym Brydain Fawr yn gartref inni.

Dyna pam y mae’n rhaid inni barhau i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein cyn-filwyr drwy’r amseroedd heriol hyn.

Dywedodd y Cadfridog Syr John McColl, Cadeirydd Conffederasiwn yr Elusennau Gwasanaeth:

Mae’r cyllid argyfwng hwn yn cael ei groesawu yn fawr iawn ac mae’n gam tuag at gynnal cefnogaeth sy’n achub bywydau ar gyfer y rhai hynny sydd mewn angen ar draws Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r Sector Elusennau Gwasanaeth unwaith eto wedi dangos dychymyg a phenderfyniad mawr wrth addasu ei ddulliau cyflawni yn ystod yr argyfwng hwn ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio â’r WA a’r SMC er mwyn cynnal y gwasanaethau hanfodol hyn yn ystod y misoedd sydd i ddod, oherwydd bod gwir effaith y pandemig yn cael ei deimlo gan elusennau drwy’r Sector.

O dan y cynlluniau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb eleni, bydd cyflogwr sy’n cyflogi cyn-filwyr sy’n ennill £25k yn arbed oddeutu £2,000 mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy wneud hynny.

Ar hyn o bryd, mae cyflogwyr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr o 13.8% o gyflog y gweithiwr. O dan y mesur hwn, byddan nhw’n gallu arbed y gost hon ar gyflog gweithiwr hyd at y Terfyn Enillion Uchaf (£50,000).

Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr SMC ei fod yn lansio astudiaeth i edrych a yw COVID-19 wedi cael unrhyw effaith benodol ar gymuned y cyn-filwyr yn y DU. Bydd hyn ei dro yn galluogi gwneuthurwyr polisïau yn y llywodraeth i ddeall materion posibl sy’n effeithio ar gyn-filwyr ac ymateb yn unol â hynny yn seiliedig ar gyngor a thystiolaeth arbenigol.

Mae Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC), a grewyd y llynedd, yn sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn cyflawni gwell canlyniadau ar gyfer cyn-filwyr, yn arbennig mewn meysydd fel iechyd meddwl, cyflogaeth a thai. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag adrannau Llywodraeth y DU, y Gweinyddiaethau Datganoledig a’r elusennau er mwyn cydlynu gweithgaredd ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae swyddogaeth yr SMC yn cynnwys:

  • Cyfuno holl swyddogaethau’r llywodraeth a chydlynu darpariaeth y sector elusennol yn well, er mwyn sicrhau bod dyletswydd gydol oes y genedl hon ar gyfer y rhai hynny sydd wedi bod yn gwasanaethu
  • Sicrhau bod pob cyn-filwr a’i deulu yn gwybod lle i gael cefnogaeth pan fydd ei hangen
  • Helpu i gynhyrchu ‘golwg unigol ar gyn-filwr’ drwy wneud gwell defnydd o ddata er mwyn deall anghenion y cyn-filwyr a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth
  • Gwella sut y canfyddir cyn-filwyr

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 25 June 2020