Stori newyddion

Diolch i gyflogwyr am gefnogi milwyr wrth gefn ‘i ddal ati i ymdeithio’ mewn noswaith wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd

Mae 22 o sefydliadau yng Nghymru, sy’n nifer anhygoel, wedi derbyn Gwobr Arian o fri Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn 2022.

Large group of award winners smiling

ERS Awards 2022

Mae 22 o sefydliadau yng Nghymru, sy’n nifer anhygoel, wedi derbyn Gwobr Arian o fri Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn 2022.

Cafodd y cyflogwyr o bob cwr o Gymru eu cydnabod am y gefnogaeth maent yn ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, ar 22 Medi.

Cyflwynydd y noson oedd Sian Lloyd a rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan Neil ‘Jacko’ Jackson, y Cyfarwyddwr Rheoli Cysylltiadau Amddiffyn, a ddywedodd:

Mae’n bleser mawr gen i fod yma i ddathlu’r Enillwyr Gwobrau Arian diweddaraf o Gymru fel rhan o’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Chi yw’r rhai sy’n rhoi amser i ffwrdd â thâl a chymorth AD hanfodol i filwyr wrth gefn. Chi yw’r rhai sy’n cydnabod y sgiliau unigryw y mae’r gymuned Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yn eu cyfrannu at gymdeithas a’r gweithlu. A chi yw’r rhai sy’n darparu cymorth lefel uchel i deuluoedd y fyddin hefyd.

Mae disgrifiad Churchill o filwyr wrth gefn yn enwog – fe’u disgrifiodd fel dinasyddion oedd yn cyfrannu ddwywaith, gan eu bod ag un goes yn y gymdeithas sifil a’r llall yn y byd milwrol. Felly heno, rwyf am ddiolch o galon i chi ar ran Amddiffyn a Llywodraeth y DU, am eu galluogi nhw i ddal ati i ymdeithio.

Y derbynwyr oedd:

  • Alert Logic UK Ltd
  • Allan Morris Transport Limited
  • Prifysgol Bangor
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Clecs Media CYF
  • Delyn Safety UK Ltd
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • EAS Wales – Medical & Rescue
  • Excel Civil Enforcement Ltd
  • Fantom Factory Ltd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Myddleton College
  • Cyngor Sir Penfro
  • Regiment Training Group Ltd
  • Safety-Counts Ltd
  • Sierra Nevada Corporation Mission Systems UK Ltd
  • So Fit Group Ltd
  • Tanglewood Group Ltd
  • Veteran Owned UK Ltd
  • West Cheshire & NW Chamber of Commerce
  • Wurkplace Limited
  • Your North Ltd

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Brigadydd Andrew Dawes CBE, Cadlywydd Brigâd 160 (Cymru), y Cadlywydd Steve Drysdale OBE o’r Llynges Frenhinol, Pennaeth Cell Gweithrediadau Morwrol ym maes Offer a Chymorth Amddiffyn a’r Asgell-Gadlywydd Martin Morris, Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol AIR – Cymru.

Traddodwyd yr anerchiad cloi gan y Brigadydd Dawes a’i ddirprwy, Cyrnol Sion Walker.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn mae’r Wobr Arian ERS yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

I ennill y Wobr Arian, mae’n rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu rhoi o dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Mae’n rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobl ym maes amddiffyn ar gyfer milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, oedolion sy’n gwirfoddoli gyda’r cadetiaid, a gwragedd, gŵyr a phartneriaid y rhai sy’n gweithio yn y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Mr Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Ngogledd Cymru, “Rydym mor falch fod cymaint o gyflogwyr yng Nghymru wedi’u cydnabod â’r Wobr Arian. Er gwaethaf pwysau’r blynyddoedd diwethaf, mae’r cwmnïau hyn wedi neilltuo amser i sicrhau bod cymuned y Lluoedd Arfog yn cael ei chefnogi.”

Cyhoeddwyd ar 17 November 2022