Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Wyth sefydliad o Gymru yn ennill gwobr Aur

Mae wyth cyflogwr wedi ennill Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr nodedig mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd.

Defence Employer Recognition Scheme Gold awardees. Copyright: RFCA for Wales.

Cafodd yr wyth cyflogwr, oedd yn dod o bob cwr o Gymru, eu cydnabod am y gefnogaeth ragorol maen nhw’n ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn HMS CAMBRIA, Bae Caerdydd ar 24 Medi.

Ar ddechrau’r noson wobrwyo fawreddog, cynhaliwyd derbyniad â diodydd lle cafodd y gwesteion fwynhau cerddoriaeth gan Cerys Rees, telynores Catrawd y Cymry Brenhinol. Cafodd y gwesteion eu diddanu gan Fand Pumawd Pres Môr-filwyr Brenhinol Ei Fawrhydi.

Sian Lloyd oedd yn cyflwyno’r noson, a Neil (Jacko) Jackson, Cyfarwyddwr Rheoli Cysylltiadau Amddiffyn, oedd yn gyfrifol am roi’r anerchiad agoriadol. Rhoddwyd y prif anerchiad gan Y Dirprwy Lyngesydd Andy Perks MBE, Pennaeth Llongau Tanfor.

Dyma’r sefydliadau Cymreig a gafodd wobr:

  • OLLYWOOD LTD
  • Valley Veterans
  • Helix Operations Limited
  • Platts Group
  • Powys Teaching Health Board
  • R&M Williams Limited
  • Powys County Council
  • KLA CORPORATION UK LIMITED

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan Y Dirprwy Lyngesydd Perks; Comodor Tris Kirkwood OBE ADC, Comander y Llynges yng Nghymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel; y Brigadydd Mark Davis CBE, Comander Brigâd 160th (Cymru) a Phennaeth y Fyddin yng Nghymru; a Chomodor yr Awyrlu Rob Woods OBE, Swyddog Awyr Cymru.

Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a ddyfernir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn cydnabod yn ffurfiol sefydliadau sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rheini sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd. Cafodd 162 o sefydliadau yn y DU y wobr Aur eleni.

Er mwyn ennill gwobr Aur:

  • Rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol darparu o leiaf 10 diwrnod a mwy o absenoldeb ychwanegol â thâl i Filwyr Wrth Gefn.
  • Rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol rhoi polisïau adnoddau dynol ar waith ar gyfer cyn-filwyr ac oedolion sy’n gwirfoddoli yn y Llu Cadetiaid
  • Rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol eirioli dros Amddiffyn ar draws eu rhwydweithiau a’u sectorau
  • Rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol dangos ymrwymiad parhaus ymhell y tu hwnt i’r gofynion sylfaenol

Mae’r sefydliadau hyn yn arwain drwy esiampl, gan helpu i newid agweddau cenedlaethol a chodi safonau ar draws eu sectorau.