Datganiad i'r wasg

Ymrwymiad DVLA i effeithlonrwydd dŵr yn derbyn cydnabyddiaeth ledled y DU

Mae DVLA wedi cael ei gwobrwyo’r Waterwise Checkmark am eu hymarferion cynaliadwy o ran ymddygiad sy'n arbed dŵr. Mae'r wobr yn rhan o Gynllun Cynaliadwyedd DVLA am 2021/22 i greu amgylchedd gwaith mwy cynaliadwy.

Mae DVLA wedi cael ei chydnabod gan brif awdurdod effeithlonrwydd dŵr y DU ar ôl cyflwyno ystod o fesurau i annog pobl i beidio â gwastraffu dŵr.

Mae’r asiantaeth wedi cael ei gwobrwyo’r Waterwise Checkmark ar ôl ymgysylltu â’i staff i hyrwyddo arferion cynaliadwy a lleihau gwastraff dŵr ar ei safle yn Abertawe.

Mae’r Checkmark, sy’n cael ei gwobrwyo gan Waterwise, sef prif awdurdod annibynnol effeithlonrwydd dŵr y DU, yn amlygu bod adeilad neu ran o adeilad wedi gosod technoleg, arwyddion a rhaglenni ymgysylltu sy’n arwain at ymddygiad sy’n arbed dŵr.

Mae gan DVLA hanes o ymdrechu i arbed dŵr gan ei bod yn dilyn Ymrwymiad Gwyrddu Llywodraeth y DU, sy’n gosod nodau ar gyfer y llywodraeth ganolog a’i hasiantaethau i leihau defnyddio a gwastraffu.

Cydnabyddwyd yr asiantaeth ar ôl iddi gyflwyno mesurau arbed dŵr, gan gynnwys defnyddio dyfeisiau awyru i leihau llif dŵr o dapiau, gosod arwyddion ar draws ei safle yn Nhreforys i helpu staff i leihau gwastraff dŵr, eu hannog nhw i gysylltu â llinell gymorth i roi gwybod yn hawdd am unrhyw ollyngiadau neu broblemau, a defnyddio wrinalau heb ddŵr. Mae hefyd monitro uwch o ddefnydd dŵr ar draws yr ystad trwy is-fesuryddion a meddalwedd ar y we.

Dywedodd Louise White, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ystadau yn DVLA:

Rydym yn falch iawn o dderbyn y Checkmark, sy’n cydnabod yr ymrwymiad mae ein timau wedi’i ddangos i arbed rhagor o ddŵr trwy nifer o brosiectau mewnol.

Yn DVLA rydym yn ymroddi i leihau ein heffaith amgylcheddol trwy foderneiddio ein gwasanaethau a’n hystad, ac rydym wedi cymryd camau i annog ein staff i gymryd rhan mewn creu amgylchedd gwaith mwy cynaliadwy.

Credwn fod cynaliadwyedd yn dechrau gyda ni, ac fel asiantaeth, byddwn yn parhau i weithio tuag at wella effeithlonrwydd dŵr a chadw ymarferion cynaliadwy trwy DVLA.

Dywedodd Dr Nathan Richardson, Pennaeth Polisi a Strategaeth Waterwise, am wobr DVLA:

Roedd yn bleser dyfarnu’r Waterwise Checkmark i DVLA. Roedd ei chais yn un o’r rhai cryfach rydym erioed wedi’i weld ac roedd yn cynnwys tystiolaeth wych o’r hyn sy’n cael ei wneud i arbed dŵr, o offer effeithlon i ymgyrchoedd ymddygiadol gyda staff yn y swyddfa.

Nodiadau i olygyddion

  • Cafodd DVLA ei gwobrwyo yn y categori ar sail swyddfa, ac mae ymhlith 33 o fusnesau ledled y DU i dderbyn y wobr, gan gynnwys Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

  • Mae’r Waterwise Checkmark wedi cael ei hennill fel rhan o Gynllun Cynaliadwyedd DVLA am 2021/22, sy’n dangos sut y bydd yr asiantaeth a’i staff yn cadw amgylchedd gwaith cynaliadwy a sefydlu cynaliadwyedd yn ei gweithrediadau o ddydd i ddydd.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 31 August 2021