Datganiad i'r wasg

Tîm Datblygu Masnachol yn ennill Gwobr y Gwasanaeth Sifil

Enillodd tîm Datblygu Masnachol DVLA y Gwobr Sgiliau ar ddydd Iau, 23 Tachwedd 2017 yn seremoni fawreddog Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil yn Lancaster House, Llundain.

Cyflwynir y Gwobr Sgiliau am arddangos rhagoriaeth mewn hybu datblygu sgiliau ac yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i gynyddu sgiliau gyda deilliannau busnes positif. Cafodd DVLA ei chydnabod am ei gwaith mewn datblygu arweinwyr o fewn y gwasanaeth sifil trwy’r rhaglen Arweinyddiaeth Masnachol a Chymorth Sgiliau. Roedd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddatblygu staff arbenigol er mwyn cryfhau llwyfan sgiliau masnachol proffesiynol ac i dyfu tîm masnachol craf i arwain ar newid ac i weithredu ar welliannau.

Dywedodd Emma Melrose, Pennaeth Datblygiad Masnachol DVLA:

Rwyf wrth fy modd bod ein tîm wedi cael ei wobrwyo am y gwaith caled maent yn gwneud er mwyn creu a chyflwyno Rhaglen Arweinyddiaeth Masnachol a Chymorth Sgiliau. Mae’r Tîm yn haeddu’r wobr ac mae’n deyrnged briodol i’r gwaith caled sy’n cael eu cyflwyno gan weision sifil eithriadol.

Pob blwyddyn mae Gwobrau’r Gwasanaeth Sifil yn dathlu llwyddiant a chyfoeth o ysbrydoliaeth unigolion a phrosiectau arloesol ar draws y gwasanaeth sifil. Mae’r gwobrau wedi bod yn rhedeg am 12 mlynedd ac yn cael ei mynychu gan adrannau ar draws y gwasanaeth sifil. Mae’r gwobrau yn annog rhannu arfer da ar draws y llywodraeth, yn ogystal â rhannu arloesi, dysgu ac arweinyddiaeth.

Gwnaeth gwasanaeth ffitrwydd meddygol i yrru ar-lein y DVLA llwyddo cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Ddigidol. Tra nad oeddent yn llwyddiannus ar y noson, maent wedi ennill gwobrau DigiLeaders 100 a NextGen yn ddiweddar.

Nodiadau i olygyddion

  • Cynhaliwyd Gwobrau Gwasanaeth Sifil ar ddydd Iau 23 Tachwedd yn Lancaster House, Stable Yard, St James’s, Llundain SW1A 1BB.

  • Mae’r Gwobrau Gwasanaeth Sifil yn rhaglen trawslywodraethol mawreddog sydd yn cael ei pharchu yn fawr.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 24 November 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 November 2017 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.