Mae'r DVLA yn rhybuddio modurwyr i fod yn ymwybodol o sgamiau
Mae DVLA wedi datgelu cynnydd o 20% yn nifer y sgamiau a adroddir i’w chanolfan gyswllt, gyda 1, 538 o adroddiadau a ddrwgdybir ynghylch treth cerbyd yn ystod y 3 mis olaf 2019.

Mae’r DVLA wedi rhyddhau lluniau o rai o’r twyllau y mae sgamwyr yn eu defnyddio i dwyllo modurwyr i drosglwyddo eu harian.
Mae’n dod wrth i ffigurau newydd ddangos cynnydd o 20% yn nifer y sgamiau a adroddir i’r DVLA, gyda 1,538 o adroddiadau i’r asiantaeth yn ystod y tri mis olaf 2019.
Roedd yr adroddiadau o sgamiau gwe, e-bost, neges destun neu’r cyfryngau cymdeithasol amheus wedi cynyddu o 1,275 yn yr un cyfnod yn 2018.
Mae’r DVLA wedi rhyddhau’r delweddau o sgamiau diweddar a adroddwyd i helpu modurwyr i fod yn ymwybodol o beth i gadw golwg amdano a rhoi rhybudd clir, os yw rhywbeth a gynigir ar-lein neu drwy neges destun yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae bron yn sicr ei fod o.
Mae sgamwyr yn targedu cwsmeriaid diarwybod gyda dolenni i wasanaethau nad ydynt yn bodoli a negeseuon am ad-daliadau treth, sydd i gyd yn ffug.
Mae’r adroddiadau hefyd yn dangos bod dogfennau gyrwyr a cherbydau ar werth ar y rhyngrwyd. Mae’r DVLA yn cynghori unrhyw un sydd â phryderon am unrhyw alwadau, negeseuon testun, e-byst neu weithgarwch amheus ar-lein, i hysbysu’r heddlu drwy Action Fraud yn syth.
Dywedodd David Pope, prif swyddog diogelwch gwybodaeth y DVLA:
Rydyn ni wedi rhyddhau enghreifftiau o sgamiau bywyd go iawn i helpu modurwyr i ddeall pryd mae sgam ar waith. Nod y gwefannau a’r negeseuon hyn yw twyllo pobl i gredu y gallant gael gwasanaethau nad ydynt yn bodoli, megis cael gwared ar bwyntiau cosb o drwyddedau gyrru.
Mae ein holl ad-daliadau treth yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig ar ôl i fodurwr ddweud wrthym eu bod wedi gwerthu, cael gwared ar eu cerbyd neu ei drosglwyddo i rywun arall felly dydyn ni ddim yn gofyn i unrhyw un gysylltu â ni i hawlio eu ad-daliad.
Rydyn ni eisiau amddiffyn y cyhoedd ac os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae bron yn sicr ei fod o. Yr unig ffynhonnell y gellir ymddiried ynddi am wybodaeth y DVLA yw GOV.UK
Mae’n bwysig cofio hefyd i beidio byth â rhannu delweddau ar gyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol, fel eich trwydded yrru a dogfennau eich cerbyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Action Fraud:
Gall hyn fod yn amser o’r flwyddyn sy’n llawn straen, wrth drefnu cyllid ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae twyllwyr yn ymwybodol o hyn ac yn defnyddio gwahanol ffyrdd i dwyllo pobl.
Mae cymryd ychydig o funudau i ymgyfarwyddo ag ychydig o awgrymiadau diogelwch ar-lein syml yn gallu bod yn arwyddocaol o ran diogelu eich hun rhag bod yn ddioddefwr twyll ar-lein.
Dylech fod yn wyliadwrus bob amser wrth rannu gwybodaeth bersonol ar-lein ac osgoi cael eich twyllo drwy ddefnyddio GOV.UK ar gyfer gwasanaethau’r Llywodraeth ar-lein yn unig, fel y DVLA.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i ni.
Nodiadau i olygyddion
-
Gellir adrodd am dwyll neu seiber-droseddu i Action Fraud trwy ffonio 0300 123 2040 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm), neu drwy ddefnyddio eu hofferyn adrodd ar-lein, sydd ar gael 24/7.
-
Y llynedd cyhoeddodd y DVLA ei hawgrymiadau ar gyfer modurwyr i aros yn ddiogel ar-lein.
-
Amcangyfrifodd Dangosydd Twyll Blynyddol 2017 mai cost twyll i’r DU oedd £190bn y flwyddyn.
-
Yn chwarter olaf 2019 roedd 1,538 o gwynion i’r DVLA ynghylch sgamiau gwe, e-bost, testun neu’r cyfryngau cymdeithasol amheus. Roedd hynny’n cynnydd o 20% at 1,275 yn yr un cyfnod yn 2018.
-
Action Fraud yw canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiber-droseddu lle dylech roi gwybod am dwyll os ydych wedi cael eich sgamio, twyllo neu brofi seiber-droseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
-
Bydd diwrnod rhyngrwyd mwy diogel 2020 yn cael ei ddathlu yn fyd-eang ar ddydd Mawrth 11 Chwefror. Nod Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel yw ysbrydoli sgwrs genedlaethol am ddefnyddio technoleg mewn modd cyfrifol, parchus, beirniadol a chreadigol. Y thema eleni yw ‘Gyda’n gilydd ar gyfer rhyngrwyd well’.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407