Datganiad i'r wasg

DVLA yn dadorchuddio Beiciau Gwaed Cymru fel ei Helusen o Ddewis

Mae staff DVLA wedi dewis Beiciau Gwaed Cymru fel yr Elusen o Ddewis am 2020. Trwy’r flwyddyn byddant yn codi arian i’r elusen sy’n cludo cyflenwadau gwaed brys ac eitemau eraill i’r GIG ar draws Cymru.

2 men and 1 woman standing by 2 motorcycles outside the Driver and Vehicle Licensing Agency in Swansea

Ers ei lansio yn 2014, mae’r cynllun Elusen o Ddewis yn DVLA wedi codi mwy na £300,000 ar gyfer elusennau lleol drwy ystod o weithgareddau codi arian gan gynnwys cyngherddau elusen, deifio o’r awyr, rhedeg hanner marathon, cwblhau’r Her Tri Chopa a chymryd rhan mewn eilliadau pen noddedig.

Dywedodd Nigel Ward, Cadeirydd Beiciau Gwaed Cymru:

Rwy’n hynod o falch bod staff DVLA wedi dewis Beiciau Gwaed Cymru fel yr Elusen o Ddewis am 2020. Mae hyn yn golygu cymaint i ni gyd oherwydd ein bod ni i gyd yn wirfoddolwyr yn cludo samplau gwaed, plasma, llaeth y fron ac eitemau hanfodol eraill i’r GIG am ddim.

Mae ein beiciau yn gwneud cannoedd o filltiroedd pob wythnos ac angen cael eu cynnal a’u cadw i gadw ein beicwyr yn ddiogel. Bydd cefnogaeth DVLA yn ein helpu ni i wneud hyn fel y gallwn barhau i ddosbarthu’r eitemau hanfodol hyn i ysbytai lleol.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Mae’r gwirfoddolwyr yn Beiciau Gwaed Cymru yn darparu cymorth hanfodol i ysbytai ar draws Cymru ac rwy’n hynod o falch ein bod yn eu cefnogi nhw drwy 2020. Mae ein staff wedi rhoi gymaint o’u hamser eu hunain dros y blynyddoedd i godi cannoedd o filoedd o bunnoedd i elusennau ac rwyf yn edrych ymlaen at weld yr ystod o weithgareddau byddant yn eu gwneud i gefnogi Beiciau Gwaed Cymru.

Nodiadau i olygyddion:

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen wirfoddol sy’n darparu gwasanaeth cludo am ddim i’r GIG ar draws Cymru rhwng 7pm ar nosweithiau Gwener tan ganol nos nosweithiau Llun gan gynnwys gwyliau’r banc a diwrnod Nadolig. Maent hefyd yn gweithio ar ddyddiau’r wythnos i rai ardaloedd byrddau iechyd ac yn dosbarthu samplau gwaed, plasma, llaeth y fron, dogfennau ac eitemau eraill ar draws Cymru.

Ers 2014 mae staff DVLA wedi codi £21,389 ar gyfer Awyr Ambiwlans Cymru, £43,578 ar gyfer LATCH, £70,906 ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer, £56, 159 ar gyfer Mind, £58,803 ar gyfer Maggie’s Abertawe a £62,033 ar gyfer Tŷ Olwen.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 15 January 2020