Datganiad i'r wasg

Staff DVLA yn rhoi dros £50,000 i elusen iechyd meddwl

Heddiw (dydd Mercher 6 Rhagfyr) rhoddodd DVLA siec am £51,799.26 i elusen Mind ar ôl blwyddyn lawn o weithgareddau codi arian gan ei staff.

DVLA staff raise over £50,000 for charity Mind

Roedd y cyfanswm a godwyd ar gyfer yr elusen iechyd meddwl drwy 2017 yn rhan o flwyddyn o godi arian gan staff DVLA. Dewisodd staff Mind fel elusen o ddewis blynyddol yr asiantaeth ac maent wedi bod yn codi arian trwy nifer o weithgareddau gwahanol, yn cynnwys rhedeg hanner marathon, Her y Tri Copa, neidio allan o awyren, a chyngerdd ‘Music For Mind’. Dros y flwyddyn wnaeth staff hefyd cynnal rafflau, swîps a gwerthiant teisennau, gyda phob achlysur yn codi arian at yr achos da.

Yn ogystal â chynrychiolwyr o’r elusen, roedd llysgennad Clwb Pêl Droed Abertawe, Lee Trundle yn dangos ei gefnogaeth trwy fynychu cyflwyniad y siec i Mind yn DVLA yn Nhreforys heddiw yn ystod ffair Nadolig blynyddol yr asiantaeth.

Dywedodd Oliver Morley, Prif Weithredwr DVLA:

Mae ymdrechion ein staff yn ein hymgyrch elusen o ddewis eleni unwaith eto wedi bod gwir yn anhygoel, a dw i’n falch iawn o bawb sydd wedi codi neu roi arian i gefnogi Mind. Rydym wedi gweld amrywiaeth eang o weithgareddau codi arian ar draws yr asiantaeth trwy gydol y flwyddyn, a dw i’n ddiolchgar iawn i bawb am gymryd rhan ac am gefnogi’r achos hynod o dda hwn.

Dywedodd Lorna Killin, Uwch Rheolwr Cyfrif Corfforaethol:

Rydym wrth ein boddau bod DVLA wedi ein dewis ni fel ei helusen o ddewis ac am ei holl gefnogaeth trwy godi arian. Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng Mind Abertawe, sy’n darparu cymorth yn lleol, a’r Mind Infoline sy’n darparu cymorth a chyngor i unrhyw un sy’n profi problemau iechyd meddwl. Bydd yr arian a godwyd gan DVLA yn helpu Mind i sicrhau nad yw unrhyw un yn gorfod wynebu problemau iechyd meddwl ar ei ben ei hun.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 6 December 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 December 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.