Datganiad i'r wasg

Staff DVLA yn rhoddi £13,000 i’w helusen o ddewis Beiciau Gwaed Cymru

Mae DVLA yn cyhoeddi’r cyfanswm a godwyd ar gyfer Beiciau Gwaed Cymru a phwy wnaeth y staff bleidleisio amdanynt fel eu Helusen o Ddewis ar gyfer 2022.

Mae’r elusen achub bywydau Beiciau Gwaed Cymru wedi derbyn hwb o £13,000 tuag at ei “gwaith hanfodol” diolch i haelioni staff DVLA.

Wnaeth yr elusen, sy’n cludo cyflenwadau gwaed brys i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar draws Cymru, dderbyn y rhodd wrth staff DVLA ar ôl iddi gael ei henwebu fel eu Helusen o Ddewis am y 2 flynedd flaenorol.

Cododd staff yr arian yn eu hamser eu hun trwy wneud cwisiau rhithiol, heriau cerdded, digwyddiadau côr, swîps rhithiol a rafflau.

Dywedodd Nigel Ward, Cadeirydd Beiciau Gwaed Cymru:

Rydym wedi bod mor ddiolchgar i fod Elusen o Ddewis DVLA am 2 flynedd yn olynol.

Mae wedi bod yn fendigedig i glywed am yr ymdrechion i godi arian. Bydd pob ceiniog sy’n cael ei rhoi yn mynd tuag at waith hanfodol i achub bywydau a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r staff yn DVLA.

Bydd yr arian a godwyd yn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaeth dibynadwy, di-dâl ac o ansawdd uchel i ymddiriedolaethau iechyd ledled Cymru.

Mae DVLA bellach yn falch o gyhoeddi Ambiwlans Awyr Cymru fel ei helusen o ddewis ar gyfer 2022.

Mae’r elusen yn darparu gofal critigol cyflym i bobl sy’n wynebu argyfyngau sy’n bygwth bywyd ac wedi cwblhau 40,403 o deithiau hyd yn hyn, ond mae angen arni godi £8 miliwn bob blwyddyn i barhau i hedfan.

Ynglŷn â chefnogaeth DVLA, dywedodd Mark Winter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ambiwlans Awyr Cymru:

Diolch o galon i bawb yn DVLA am arddangos eu cefnogaeth gref atom fel hyn. Dechreuodd Ambiwlans Awyr Cymru yn Abertawe 20 mlynedd yn ôl felly dyma ffordd arbennig i ddathlu’r garreg filltir hon.

Bydd cefnogaeth DVLA dros y 12 mis nesaf yn sicrhau y byddwn yna i gynorthwyo’r rheiny mewn angen yn ystod argyfyngau sy’n bygwth bywyd neu aelodau o’r corff.

Mae pobl ar draws Cymru yn dibynnu ar yr ymateb cyflym brys rydym yn ei ddarparu. Gydag ymgynghorwyr ar yr hofrennydd ac ymarferwyr gofal critigol, ynghyd â chyfarpar o safon ysbyty, rydym yn Adran Frys Awyr - sy’n dod â’r ysbyty i’r claf.

Dim ond trwy gefnogaeth fel hon gan DVLA y gallwn gynnal ein gwasanaeth achub bywydau. Rydym yn ddiolchgar iawn ichi gyd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi fel eich Elusen o Ddewis.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 22 December 2021