Datganiad i'r wasg

Mae DVLA yn gofyn am farn ar ehangu’r gronfa o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n cwblhau holiaduron meddygol

Mae DVLA ar 8 Tachwedd wedi lansio ymgynghoriad ar ehangu’r gronfa o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a all gwblhau holiaduron meddygol DVLA.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob gyrrwr fodloni’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru a phob blwyddyn mae DVLA yn gwneud 500,000 o benderfyniadau trwyddedu meddygol. Er mwyn helpu i wneud y penderfyniadau hyn, mae DVLA yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i holiaduron gael eu cwblhau gan feddyg neu ymgynghorydd gyrrwr.

Mae’r ymgynghoriad sy’n lansio heddiw yn gofyn am farn ar newid y gyfraith o bosibl - a diwygio’r Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar wahân i ymarferwyr meddygol cofrestredig (meddygon sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol) i gwblhau holiaduron meddygol DVLA.

Mae hyn yn rhan o ddull gan DVLA i wella’r prosesau trwyddedu meddygol a chyflymu’r broses drwy leihau’r baich sydd ar feddygon ar hyn o bryd i ddarparu gwybodaeth sy’n angenrheidiol i ganiatáu i’r DVLA wneud penderfyniadau trwyddedu gyrwyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mewn llawer o achosion, byddai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, megis ymarferwyr nyrsio, yn cymryd mwy o ran mewn triniaeth i gleifion ac felly mewn sefyllfa gyfartal i gwblhau’r holiadur.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para tan 6 Rhagfyr ac mae’n gwahodd adborth yn enwedig gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, cyrff sy’n cynrychioli ymarferwyr meddygol yn y sector iechyd. Mae ar gael ar GOV.UK a bydd yn cymryd tua 25 munud i’w gwblhau.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA, Julie Lennard:

Blwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn gweld cynnydd mewn ceisiadau trwyddedu meddygol i yrwyr ac rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella’r broses ar gyfer cwsmeriaid a’r proffesiwn meddygol.

Byddai’r cynnig hwn yn caniatáu i gronfa ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gwblhau holiadur meddygol gyrrwr, gan leihau’r baich ar feddygon teulu ac ymgynghorwyr. Rydym yn arbennig o awyddus i ofyn am farn gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, ymarferwyr meddygol a chyrff cynrychioliadol yn y sector iechyd ar wneud y newid hwn.

Dywedodd y Gweinidog Ffyrdd, y Farwnes Vere:

Mae’r cynlluniau hyn wedi’u cynllunio i wneud y prosesau trwyddedu meddygol yn fwy effeithlon er mwyn lleihau amseroedd aros a lleddfu’r baich ar feddygon ac ymgynghorwyr.

Rwy’n annog gweithwyr meddygol a gofal iechyd proffesiynol i roi eu barn i’r ymgynghoriad hwn fel y gallwn sicrhau y gallwn wella’r system yn ddiogel mewn ffordd sy’n addas i bawb.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 8 November 2021