Datganiad i'r wasg

DVLA yn dal gafael ar achrediad gwasanaethau cwsmeriaid am y 12fed flwyddyn yn olynol

Mae Canolfan Gyswllt y DVLA wedi derbyn achrediad CCA (Cymdeithas Cyswllt Cwsmeriaid) am y 12fed flwyddyn yn olynol, y tro hwn yn llwyddo i sicrhau Fersiwn 7 o Safon Fyd-eang CCA.

DVLA Contact Centre reception area

Mae ennill achrediad yn erbyn Fersiwn 7 o’r Safon Fyd-eang yn cydnabod canolfan gyswllt DVLA fel arweinydd diwydiant, gydag ymrwymiad i ysgogi rhagoriaeth gwasanaeth i’w chwsmeriaid.

Canolfan Gyswllt y DVLA yw’r ganolfan gyswllt safle sengl fwyaf yn y Llywodraeth, sy’n delio â thua 24.5 miliwn o ymholiadau bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 1,100 o bobl yn ei chanolfan weithrediadau pwrpasol yn Abertawe. Cyfarfu aseswyr allanol annibynnol ag aelodau o staff, uwch arweinwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y ganolfan y llynedd i feincnodi gweithrediad y DVLA yn erbyn safon CCA mewn amrywiaeth o gategorïau a chasglu tystiolaeth i gefnogi achrediad y DVLA.

Er mwyn cyflawni ‘Fersiwn 7’ o Safon Fyd-eang CCA, cymerodd y DVLA ymagwedd o’r newydd tuag at asesu ei weithrediad gwasanaethau cwsmeriaid, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad digidol a thechnolegol, ynghyd â rhoi mwy o bwyslais ar leisiau cwsmeriaid a staff y DVLA.

Roedd ffocws parhaus ar brofiad y cwsmer, prosesau cadarn, a datblygu ac ymgysylltu parhaus â staff ymhlith y cryfderau allweddol a amlygwyd gan y CCA yn ei hasesiad.

Nododd adroddiad asesu’r CCA fel a ganlyn:

Mae Canolfan Gyswllt y DVLA yn drefnus ac wedi’i rheoli’n dda trwy arweinyddiaeth gref a datblygiad pobl rhagorol, gyda chyfleoedd i bobl symud ymlaen mewn nifer o wahanol feysydd, yn weithredol a thrwy’r timau cefnogi.

Mae’n amlwg bod gwir awydd i bobl ar bob lefel sicrhau canlyniadau perfformiad cryf a chefnogi cydweithwyr trwy gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Daw’r achrediad ‘Fersiwn 7’ mewn blwyddyn lle gwelwyd cyflawniad sylweddol gan y staff yng nghanolfan gyswllt y DVLA, gyda Gwobrau Rhagoriaeth CCA diweddaraf yn gweld timau ac unigolion yn cael eu cydnabod gyda gwobrau Cyflawniad Safon Fyd-eang CCA Aur. Yn 2019 hefyd, cyflwynwyd Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol am raglen hyfforddiant a datblygiad yn fewnol ar gyfer arweinwyr gweithredol newydd ac arweinwyr y dyfodol, y bu staff y ganolfan gyswllt yn cymryd rhan ynddi.

Dywedodd Tony Ackroyd, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cwsmeriaid DVLA:

Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi cyflawni’r achrediad clodwiw hwn am y ddeuddegfed flwyddyn yn olynol. Ynghyd â’r cyflawniadau unigol a thîm a gydnabyddir gan y CCA, mae’r adroddiad achredu yn cadarnhau’r gwaith gwych y mae staff ein canolfan gyswllt yn ei wneud bob dydd.

Uchafbwynt penodol o’m safbwynt i yw’r lefel uchel o ymgysylltu â staff a nodwyd yn yr adroddiad. Mae hyfforddiant a chyfleoedd gwych sy’n galluogi i’n staff symud ymlaen wrth wraidd ein gwerthoedd ac yn sail i’n hymrwymiad i wella arferion gorau, wrth i ni anelu at ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r degau ar filoedd o gwsmeriaid rydyn ni mewn cysylltiad â nhw bob dydd.

Nodiadau i olygyddion

Y CCA yw’r prif awdurdod ar strategaethau a gweithrediadau cyswllt cwsmeriaid. Cael rhagor o wybodaeth am Safonau Byd-eang CCA.

Yng Ngwobrau Rhagoriaeth CCA ym mis Tachwedd 2019, enillodd Marc Richards o’r DVLA Wobr Cyflawniad Safon Fyd-eang CCA Aur ar gyfer Unigolyn y flwyddyn 2019. Enillodd Tîm Rheoli Sianel Cwsmer (CCMT) y DVLA Wobr Tîm y Flwyddyn.

O’r staff canolfan gyswllt y DVLA a arolygwyd fel rhan o asesiad achredu’r CCA:

  • dywedodd 93% fod y sefydliad wedi ymrwymo i hyfforddi a datblygu
  • dywedodd 87% eu bod yn cael eu hannog yn weithredol i wneud awgrymiadau a chynnig syniadau ar gyfer gwelliannau
  • dywedodd 91% fod eu hadborth yn cael ei werthfawrogi
  • dywedodd 92% fod eu rheolwr yn eu cefnogi gyda nodau datblygiad personol

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 4 February 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 February 2020 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.