Datganiad i'r wasg

DVLA yn galw ar ddisgyblion i ymateb i’r her

Mae disgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru’n cael eu herio i ennill yr offer TG diweddaraf ar gyfer eu hysgolion trwy gynllunio gêm gyfrifiadurol.

This news article was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s out of date. Find out more about the DVLA Code Challenge.

Mae Her Godio y DVLA yn cael ei hanelu at bob plentyn ysgol gynradd 7-11 oed yng Nghymru. Gwahoddir timau o hyd at bump o ysgolion a chlybiau cod cymunedol i arddangos eu sgiliau rhaglennu trwy gynllunio gêm gyfrifiadurol o’r cychwyn cyntaf. Seilir hyn ar un o 4 thema wahanol a ddewisir gan noddwyr y digwyddiad.

Bydd yr her yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm. Bydd yn gwella eu gwybodaeth o raglennu cyfrifiadurol mewn ffordd arloesol, llawn hwyl.

Mae’n cael ei chynnal ar y cyd â’r DVLA, Clwb Cod, Llysgennad STEM Hwb Cymru, Incredible Oceans, Brake, Diogelwch Ffordd Cymru, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y 4 Heddlu yng Nghymru a’r Milwyr Wrth Gefn. Mae’n un o nifer o fentrau gwirfoddol sy’n cael ei threfnu gan y DVLA i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn technoleg.

Yna, bydd y timau sy’n cael eu rhoi ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu diwrnod gwobrwyo Her Godio 2017 y DVLA yn theatr ddigidol y DVLA yn Abertawe ar ddydd Mawrth 28 Tachwedd. Bydd Lucy Owen (Newyddion y BBC ac X-Ray) yn arwain y digwyddiad a bydd y cynigion gorau yn ennill gwobrau, sef offer TG gwerth hyd at £3,000 i’w defnyddio yn eu hysgol.

Bydd pob ysgol gynradd, clwb cod llyfrgell neu grŵp clwb cod canolfan gymunedol sy’n cofrestru diddordeb, sy’n mynychu’r digwyddiad neu’n gwylio’r digwyddiad trwy’r ddolen fyw ar y we yn cael y cyfle i ennill gwobrau gwych mewn cystadleuaeth arbennig.

Dywedodd Pennaeth Profi Seiber Ddiogeledd y DVLA a Llysgennad STEM Mark Jones:

Mae’n bwysig ein bod fel cyflogwyr yn gwneud popeth posib i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau TG mewn ysgolion a chymunedau, o addysg gynnar ar lawr gwlad ymlaen.

Mae’r DVLA wir yn Asiantaeth sy’n mynd ati i annog technolegwyr o bob oed, gan ddarparu cyfleoedd i’r sawl sydd â sgiliau a doniau digidol i ddarparu ein gwasanaethau yn awr ac i’r dyfodol.

Os cyflwynwch wyddor gyfrifiadurol yn gynnar, mewn ffordd ryngweithiol, llawn hwyl, fe fydd wir yn talu ar ei ganfed.

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw dydd Gwener 6 Hydref. Gall timau o hyd at 5 aelod gofrestru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a chael gwybod mwy ar wefan y gystadleuaeth. Mae hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth am y gwobrau ac amodau a thelerau llawn.

Nodiadau i’r golygyddion:

Mae nifer o sefydliadau yn noddi’r her. Gellir gweld rhestr gyfredol o noddwyr yn dvlacodechallenge.dvla.gov.uk/sponsors. Y dyddiad cau ar gyfer noddi yw dydd Gwener 1 Medi 2017. Dylai unrhyw sefydliad sy’n dymuno noddi’r gystadleuaeth ebostio itsvc@dvla.gsi.gov.uk

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 11 July 2017