Skip to main content
Datganiad i'r wasg

DVLA yw'r sefydliad llywodraethol cyntaf yn y byd i ennill ardystiad 5 seren ar gyfer Desg Wasanaeth

Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yw'r sefydliad llywodraethol cyntaf unrhyw le yn y byd i dderbyn ardystiad 5 seren o Safon Fyd-Eang gan y Service Desk Institute® (SDI®).

Mae tîm Desg Wasanaeth DVLA yn darparu cefnogaeth rheng flaen i gydweithwyr ledled yr asiantaeth, gan ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i wneud eu rolau hyd eithaf eu gallu ac fel rhyngwyneb i reoli gwasanaethau TG ehangach.

Mae statws Safon Fyd-Eang SDI yn safon arfer gorau byd-eang a dderbynnir yn rhyngwladol ar gyfer Desg Wasanaeth. Mae’n cydnabod sefydliadau sydd wedi llwyddo i ymgorffori rhagoriaeth gwasanaeth yn eu diwylliant, lle mae arweinyddiaeth yn ysbrydoli gwelliant parhaus, mae pobl yn cael eu grymuso i arloesi, mae cwsmeriaid yn dod yn eiriolwyr, ac mae rheoli gwasanaeth yn cael ei gydnabod fel cyfrannwr strategol at lwyddiant sefydliadol.

O’r 7 sefydliad ledled y byd sydd â thystysgrif 5 seren, DVLA yw’r corff llywodraethol cyntaf a’r unig un i gyflawni hyn, gan ei roi ar yr un lefel â sefydliadau blaenllaw yn y sector preifat.

Dywedodd Tim Moss CBE, Prif Weithredwr DVLA:

Mae hwn yn gyflawniad gwirioneddol ragorol ac yn brawf o ymroddiad a phroffesiynoldeb pawb yn ein tîm Desg Wasanaeth. Mae cael ein cydnabod fel desg wasanaeth o Safon Fyd-eang, a’r sefydliad llywodraethol cyntaf yn y byd i gyrraedd y safon hon, yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi ein cydweithwyr ar draws DVLA, gan sicrhau bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnynt i barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n cwsmeriaid.

Dywedodd Paul Rodrigues, Cadeirydd a Phrif Weithredwr SDI:

Mae Desg Wasanaeth DVLA wedi dangos y gall sefydliadau’r sector cyhoeddus osod safonau y mae eraill yn anelu at eu cyflawni. Mae’r achrediad hwn yn herio canfyddiadau hen ffasiwn am wasanaethau’r llywodraeth ac yn gosod meincnod newydd ar gyfer rhagoriaeth weithredol ar draws y sector cyhoeddus, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Nid yw Desg Wasanaeth DVLA wedi ymuno â’r gymuned o sefydliadau o Safon Fyd-Eang yn unig, mae wedi gosod safon newydd ar gyfer sut olwg sydd ar Safon Fyd-Eang yn y llywodraeth.

Mae ardystiad 5 seren Safon Fyd-Eang yn adeiladu ar ymrwymiad ehangach DVLA i welliant parhaus a thrawsnewid digidol. Bydd yr asiantaeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r SDI i gynnal y safon hon, gan sicrhau bod ei Desg Wasanaeth yn parhau i fod ar flaen y gad o ran rhagoriaeth, ac yn parhau i chwarae ei rhan wrth helpu i ddarparu gwasanaethau dibynadwy o ansawdd uchel i’r miliynau o gwsmeriaid a sefydliadau sy’n dibynnu ar DVLA bob blwyddyn.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Awst 2026