Datganiad i'r wasg

Mae DVLA yn gofyn i yrwyr i gael golwg arall mewn ymgyrch EYE 735T newydd

Mae DVLA yn lansio ymgyrch golwg genedlaethol er mwyn codi ymwybyddiaeth heddiw (Dydd Llun 23 Gorffennaf 2018).

DVLA's new EYE 735T campaign

Bydd gyrwyr yn cael eu hannog i gymryd y ‘prawf rhif plât’ - ffordd gyflym a hawdd i wirio os ydynt yn bodloni’r isafswm gofynion golwg ar gyfer gyrru. Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob gyrrwr bodloni’r isafswm safonau golwg bob amser wrth yrru mae hyn yn cynnwys gallu darllen plât rhif o 20 metr.

Mae’r ymgyrch yn atgoffa’r cyhoedd eu bod nhw’n gallu gwirio eu golwg wrth gymryd y prawf 20 metr ac yn tanlinellu rhai ffyrdd i adnabod pellter 20 metr wrth ymyl ffordd. Mae’r ymgyrch yn cynghori bod 5 hyd gar neu 8 bae parcio yn ffordd hawdd o fesur y pellter.

Mae’r ymgyrch yn annog unrhyw un sydd â phryderon am eu golwg i ymweld â’u hoptegydd neu’u hoptometrydd am brawf llygad.

Dywedodd Dr Wyn Parry, Uwch Feddyg DVLA:

Mae’r prawf rhif plât yn ffordd syml ac effeithiol i bobl gwirio bod eu golwg yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer gyrru. Y ffordd gyflymach a hawsach i wneud hyn yw gweithio allan beth mae 20 metr yn edrych fel wrth ymyl ffordd - yn nodweddiadol mae hyn yn golygu hyd 5 car wedi eu parcio tu ôl i’w gilydd - wedyn gweld os ydych yn gallu darllen y rhif plât yn glir. Mae’n wiriad hawdd i wneud unrhyw adeg y dydd wrth ymyl ffordd ac yn cymryd ond ychydig o eiliadau.

Mae cael golwg da yn hanfodol ar gyfer gyrru’n ddiogel, felly mae’n hynod o bwysig i yrwyr cael profion llygad rheolaidd. Mae golwg yn gallu dirywio’n naturiol dros amser, felly dylai unrhyw un sydd â phryderon am eu golwg ymweld â’u hoptegydd - peidiwch ag aros tan eich archwiliad nesaf.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol DVLA yn rhedeg trwy gydol yr haf.

  • Mae 20 metr tua 26 o gamau i ddyn a 33 i fenyw.

  • Dywedodd 22% o’r rheini a gymerodd rhan yn yr arolwg eu bod nhw’n gallu gweithio allan y pellter trwy ddefnyddio hyd geir neu fysiau, gyda 21% ymhellach yn dweud y byddent yn defnyddio camau i fesur y pellter. Roedd dim ond 5% yn dweud y byddent yn defnyddio tâp mesur neu fesuriad corfforol arall i amcangyfrif y pellter.

  • Cyhoeddir yr isafswm safonau golwg ar gyfer gyrru ar GOV.UK.

  • Mae DVLA yn cyhoeddi ei chyngor i weithwyr proffesiynol meddygol - yn cynnwys optegwyr ac optometryddion - i helpu asesu ffitrwydd i yrru eu cleifion yn www.gov.uk/dvla/fitnesstodrive.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 23 July 2018