Datganiad i'r wasg

DVLA yn cyhoeddi newid yn y gyfraith i alluogi rhagor o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gwblhau holiaduron meddygol

O heddiw, mae’r gyfraith wedi newid i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol heblaw meddygon i gwblhau holiaduron meddygol DVLA

medical professional
  • O heddiw, 20 Gorffennaf, mae’r gyfraith wedi newid i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol heblaw meddygon i gwblhau holiaduron meddygol DVLA yn dilyn hysbysiad o gyflwr meddygol a allai effeithio ar yrru unigolyn, mae DVLA wedi cyhoeddi
  • Bydd y newid i’r Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 bellach yn caniatáu i feddygon atgyfeirio holiaduron meddygol i gyd-weithwyr megis nyrsys arbenigol ac optegwyr o gyrff proffesiynol eraill
  • Canlyniad i waith helaeth gan DVLA yw’r newid hwn gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus lle roedd 82% o atebwyr yn cefnogi’r newid
  • Mae hyn yn rhan o ddull DVLA i gyflymu elfennau o’r broses trwyddedu meddygol tra’n lleihau’r baich ar feddygon i gwblhau holiaduron meddygol DVLA

Mae nyrsys arbenigol ac optegwyr ymhlith y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd bellach yn gallu cwblhau holiaduron meddygol DVLA, fel rhan o ddull DVLA i wella a chyflymu’r broses trwyddedu meddygol. Mae diwygiad i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, sy’n dod i rym heddiw, yn golygu y gellir awdurdodi cronfa ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig, heblaw am feddygon, i ddarparu gwybodaeth lle mae gyrrwr wedi datgan cyflwr meddygol.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob gyrrwr fodloni’r safonau meddygol ar gyfer addasrwydd i yrru. Yn aml, bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fel nyrsys neu optegwyr yn ymwneud â gofal cleifion ac mae’r newid hwn yn y gyfraith bellach yn caniatáu i’r rhain ac eraill gwblhau ffurflenni meddygol DVLA ar ôl i feddyg ohirio. Bydd DVLA yn parhau i anfon holiaduron at feddygon ac ymgynghorwyr y GMC, ac yna mater i bractisau meddygon teulu unigol a thimau ysbytai fydd pa weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ymarferol sydd yn y sefyllfa orau i gwblhau’r holiadur.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, y Farwnes Vere:

Dylai cael neu adnewyddu trwydded yrru fod yn broses gyflym, syml ac effeithlon bob amser.

Dyna pam rydym yn caniatáu i fwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gwblhau holiaduron meddygol DVLA i gyflymu’r broses trwyddedu meddygol a lleddfu’r baich ar feddygon teulu.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA, Julie Lennard:

Bob blwyddyn rydym yn derbyn nifer cynyddol o geisiadau trwyddedu meddygol gan yrwyr.

Mae’r newid hwn yn y gyfraith, sy’n ehangu’r gronfa o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gallu cwblhau holiaduron DVLA, yn gwella’r broses i’r rhai sy’n hysbysu DVLA am gyflyrau meddygol tra’n lleihau’r baich gweinyddol ar feddygon, o fudd i yrwyr a’r GIG fel ei gilydd.

Yn flaenorol, dim ond meddygon a gofrestrwyd gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a allai gwblhau’r holiaduron. Er nad yw’n ofynnol i feddygfeydd meddygon teulu na thimau ysbytai wneud newidiadau i’w prosesau presennol, bydd y newid i’r gyfraith nawr yn caniatáu i weithwyr meddygol proffesiynol o’r Cynghorau canlynol gwblhau holiaduron meddygol ar ran meddygon:

  • Y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
  • Y Cyngor Optegol Cyffredinol
  • Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Nid yw’r newid i’r gyfraith yn berthnasol i’r Adroddiad Arholiad Meddygol D4, y bydd angen i feddyg neu ymgynghorydd sydd wedi’i gofrestru gyda’r GMC ei gwblhau o hyd.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 20 July 2022