Datganiad i'r wasg

DVLA a’r Swyddfa Gartref yn dod â’r dechnoleg ddiweddaraf i wiriadau ymyl y ffordd gan yr heddlu

Mae DVLA a’r Swyddfa Gartref wedi datblygu technoleg i ganiatáu i swyddogion yr heddlu sy’n delio â throseddau moduro gadarnhau hunaniaeth gyrwyr wrth ymyl y ffordd.

Police officer.

Mae’r dechnoleg i ganiatáu i’r heddlu gael mynediad parod at ffotograff gyrrwr wrth ymyl y ffordd, ar gyfer troseddau moduro, wedi cael ei datblygu gan DVLA, wrth i’r asiantaeth ddarparu mwy o wasanaethau blaenllaw o ran technoleg yn y llywodraeth.

Yn cefnogi’r ffocws ar ddigido o fewn gorfodi’r gyfraith, mae DVLA wedi gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i roi mynediad i swyddogion yr heddlu at y ffotograff ar gronfa ddata gyrwyr DVLA wrth ymyl y ffordd. Mae hyn nawr yn golygu, ar gyfer troseddau moduro, bod swyddogion yn gallu cadarnhau hunaniaeth gywir gyrrwr bron yn syth. Mae’r dechnoleg yn cael ei defnyddio gan 18 heddlu gyda chynlluniau i’w chyflwyno i 10 heddlu pellach ledled y DU yn yr wythnosau nesaf.

Heb y dechnoleg hon, gall gymryd hyd at 16 munud i swyddogion gadarnhau hunaniaeth unigolyn gan fod angen treulio amser ychwanegol yn aml ar y swyddog yn dilysu bod y wybodaeth a roddwyd gan y gyrrwr yn wir. Mewn rhai achosion gall hyn arwain i arestiad gan fod y modurwr yn cael ei hebrwng i’r orsaf i gwblhau’r gwiriadau.

Er bod y defnydd o ddata DVLA yn y cyd-destun hwn wedi’i gyfyngu i droseddau moduro, mae’r dechnoleg, a chafodd ei dreialu am y tro cyntaf ym mis Awst 2019, wedi arwain i fanteision pwysig i’r heddlu a modurwyr.

Erbyn Mehefin 2021:

  • mae’r dechnoleg wedi arbed dros 14,000 o oriau i Swyddogion Uned Plismona Ffyrdd a Swyddogion Plismona Lleol – sy’n golygu mwy o amser am batrolio, cefnogi ymchwiliadau a gwaith cymunedol
  • mae gwiriadau wrth ymyl y ffordd hyd at 66% yn gyflymach nawr sy’n golygu bod modurwyr yn gallu dychwelyd i’r ffordd yn gyflymach
  • mae 86,513 o ddelweddau trwyddedau gyrru wedi cael eu cyrchu gan unedau cefnogaeth yr heddlu yn cadarnhau hunaniaeth modurwyr wrth ymyl y ffordd

Mae DVLA yn cyd-weithio â’r Swyddfa Gartref i roi’r gwasanaeth ar waith i gyfanswm o 46 heddlu ledled y DU.

Daw hyn wrth i’r asiantaeth barhau i ddatblygu datrysiadau digidol i fodurwyr, gan gynnwys cynlluniau i gyflwyno trwydded dros dro ddigidol i asesu hyfywedd trwydded yrru ddigidol cyn ystyried cyflwyno trwydded ddigidol i ddeiliaid trwyddedau llawn. Yn ystod y pandemig, lansiodd DVLA 3 gwasanaeth digidol newydd yn cynnig ffyrdd cyflymaf a hawsaf i gwsmeriaid o gwblhau trafodion.

Dywedodd Gweinidog y Ffyrdd y Farwnes Vere:

Mae’r llywodraeth hon yn ymdrechu’n barhaus i fod ar flaen datblygiadau technoleg a bydd y datblygiad penodol hwn nid dim ond yn rhyddhau amser heddlu gwerthfawr ond hefyd yn sicrhau y gall gyrwyr diniwed fynd yn ôl i’w teithiau yn gyflymach.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Fel sefydliad digidol rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o ddod â datblygiadau technegol i’r maes cyhoeddus – yn darparu gwelliannau sy’n gallu bod o fudd uniongyrchol i ddinasyddion.

Mae’r gallu i gefnogi gwiriadau wrth ymyl y ffordd mwy cadarn a chyflym am droseddau moduro trwy wneud gwell defnydd o dechnoleg yn rhywbeth rydym yn falch i helpu i’w ddarparu.

Dywedodd Steve Thomson, Cyfarwyddwr Rhaglen Data Gorfodi’r Gyfraith Cenedlaethol (NLEDP):

Wrth weithio mewn partneriaeth, mae’r Swyddfa Gartref, plismona a DVLA yn arddangos swyddogaeth newydd sy’n dangos sut y gallwn ddarparu mynediad at wybodaeth integredig trwy weithio ar draws darparwyr, adrannau a heddlu.

Mae’r gwasanaeth yn darparu manteision gweithredol gweladwy i blismona a’r cyhoedd ac yn y dyfodol, bydd y Gwasanaeth Data Gorfodi’r Gyfraith (LEDS) yn darparu cyfres ychwanegol o gynhyrchion a galluoedd i gefnogi plismona modern.

Nodiadau i olygyddion:

Sut mae’n gweithio:

Bydd y swyddog heddlu yn chwilio trwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) i gael rhif y drwydded yrru. Mae rhif y gyrrwr yn ddynodwr unigryw sy’n helpu i warantu y bydd y ddelwedd gywir yn cael ei chyrchu o gofnod DVLA. Trwy ddefnyddio’r rhif trwydded yrru, bydd y swyddog heddlu’n derbyn ffotograff o ddeiliad y drwydded yrru i gwblhau’r gwiriad. Dim ond yn ystod yr ymholiad y gellir cyrchu delweddau’r gyrrwr ac nad ydynt yn cael eu cadw.

Mae’r defnydd o ddata DVLA yn y cyd-destun hwn wedi’i gyfyngu i blismona’r ffyrdd.

Trwy ddefnyddio darpariaethau’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 a’r Rheoliadau Cerbydau Modur (Mynediad at Gofnodion Trwyddedu Gyrwyr) 2001, mae swyddogion heddlu’n gallu cael mynediad at gofnodion trwyddedau gyrru gyda’r bwriad o orfodi troseddau traffig ffyrdd.

Y 18 heddlu sy’n defnyddio’r dechnoleg ar hyn o bryd yw:

  • Surrey
  • Sussex
  • Swydd Gaerhirfryn
  • Swydd Gaerlŷr
  • Swydd Lincoln
  • Swydd Northampton
  • Heddlu Dinas Llundain
  • Heddlu’r Alban
  • PSNI
  • De Swydd Efrog
  • Glannau Humber
  • Dyfed-Powys
  • Swydd Gaerloyw
  • Gorllewin Swydd Efrog
  • Dyfnaint a Chernyw
  • Glannau Mersi
  • Dorset
  • Swydd Derby

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 13 July 2021