Datganiad i'r wasg

Profion gyrru yn dychwelyd i’r Barri

Bydd profion gyrru yn dychwelyd i’r Barri yn rhan o arbrawf i ddod â phrofion gyrru yn agosach at ymgeiswyr.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd profion gyrru yn dychwelyd i’r Barri yn rhan o arbrawf i ddod a phrofion gyrru yn agosach at ymgeiswyr.

Fe gaeodd canolfan profion gyrru’r Barri yn gynharach eleni, gyda phrofion yn symud i Gaerdydd a Phen-y-bont, ond o’r 5 Rhagfyr bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn cyflenwi profion yn rhan amser o’r Ganolfan Cefnogaeth Busnes ar Lannau’r Barri.

Mae’r cam heddiw yn rhan o arbrawf cenedlaethol i ddarparu gwasanaeth mwy lleol i ymgeiswyr ar gyfer y prawf gyrru. Mae’r arbrawf yn cynnig profion gyrru ymarferol mewn ardaloedd dethol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban ble nad oes canolfan brofi leol ar hyn o bryd ond sy’n dal a galw sylweddol am brofion. Y nod yw i ddarparu gwasanaeth i’r gymuned leol ac i sicrhau y gall ymgeiswyr gymryd eu prawf mewn lleoliad cyfleus.

Yn ogystal a defnyddio canolfannau prawf confensiynol, mae profion hefyd yn cael eu cyflenwi o safleoedd eraill megis gwestyau, canolfannau hamdden neu adeiladau awdurdodau lleol, fel yn yr achos hwn yn y Barri.

Meddai’r Gweinidog Diogelwch Ffyrdd Mike Penning:

Rwy’n falch iawn y bydd profion gyrru yn dychwelyd i’r Barri.

Rwyf am i ni fod yn fwy hyblyg ac arloesol o ran cyflenwi profion gyrru i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i bobl ble bynnag maent yn byw.

Ein nod yw i gynnig gwasanaeth lleol sy’n gyfleus i ymgeiswyr yn ogystal a bod yn gost effeithiol.

Bydd profion yn y Barri yn digwydd ar sail rhan amser, ar ddau ddiwrnod yr wythnos i ddechrau, ond fe allai hyn newid yn ddibynnol ar y lefel o alw.

Yn ogystal a’r prawf yn y Barri, mae’r DSA yn cynnal arbrofion mewn chwech ardal arall ledled y wlad. Byddant oll yn cael eu monitro yn ofalus i asesu unrhyw effaith ar lefelau gwasanaeth cwsmeriaid a chost cyflawniad, yn ogystal a sicrhau y cynhelir cywirdeb y prawf.

Yna bydd y DSA yn penderfynu a ellir cyflwyno’r profion ar sail barhaol a’u hymestyn i ardaloedd sydd heb ganolfan brofi leol ble mae galw sylweddol, yn ogystal a llwybrau a lleoliadau addas ar gyfer profion.

Cyhoeddwyd ar 15 November 2011