Datganiad i'r wasg

Cadwyn gyflenwi’r sector amddiffyn i ddod â chyfleoedd newydd i fusnesau Cymru

Bydd Artec yn annog cwmnïau o Gymru i fanteisio ar botensial rhaglen Boxer newydd mewn digwyddiad diwydiant ym Mhrifysgol De Cymru.

Bydd digwyddiad ar gyfer y diwydiant yn cael ei gynnal yn ne Cymru ym mis Medi gyda’r bwriad o gysylltu cwmnïau a sefydliadau ledled y wlad gyda chadwyn gyflenwi lewyrchus y DU ym maes amddiffyn.

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai’r DU yn ailymuno â’r rhaglen Boxer ac yn archwilio opsiynau i arfogi’r Fyddin â cherbydau cludo milwyr 8x8 er mwyn moderneiddio ei fflyd o gerbydau a bodloni gofynion y Fyddin o ran Cerbydau Cludo Milwyr (Mechanised Infantry Vehicles).

Mae cam asesu’r rhaglen Cerbydau Cludo Milwyr, sydd i fod i ddod i ben yn 2019, yn ystyried buddiannau cymaradwy lleoliadau gweithgynhyrchu a gwahanol gadwyni cyflenwi ar gyfer y Boxer, yn ogystal â gwerth am arian. Bydd unrhyw fargen yn amodol ar negodi ac asesiad masnachol. Y nod yw y bydd y cerbydau cyntaf yn gwasanaethu yn y Fyddin erbyn 2023.

Mewn ymdrech i wneud yn siŵr bod cwmnïau Cymru yn cynhyrchu ac yn cyflenwi nifer o is-systemau cerbydau mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn arwain yr alwad ar sefydliadau i gofrestru ar gyfer digwyddiad diwydiant Artec ar Gampws Trefforest Prifysgol Cymru ar 10 Medi.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ni allwn beidio â chydnabod yr effaith werthfawr mae’r sector amddiffyn yn ei chael ar ein diogelwch ac ar economi Cymru, drwy gefnogi miloedd o swyddi a sicrhau miliynau o bunnau o fuddsoddiad ledled y wlad.

Mae diwrnod diwydiant Artec yn rhoi cyfle pwysig i fusnesau Cymru fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi a ddaw yn sgil rhaglen Boxer a’r sector amddiffyn yn ehangach.

Bydd y profiad y byddant yn ei ennill yn rhoi iddynt y cymwysterau ychwanegol y mae arnynt eu hangen i’w helpu i gael mynediad at farchnadoedd eraill, ac rwy’n eu hannog i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle.

Roedd y DU yn rhan flaenllaw yn y gwaith o ddylunio, datblygu a phrofi’r Boxer gwreiddiol, ac fe fyddai’n ailymgymryd â’r hawliau a oedd ganddo fel partner y prosiect pe bai’r fargen yn llwyddiannus – gan gyflwyno’r opsiwn i adeiladu’r cerbyd yn y DU a’i allforio oddi yno. Gallai’r fargen olygu y byddai’r Boxer yn cael ei roi at ei gilydd yn gyfan gwbl yn y DU, gydag o leiaf 60% o’r gwaith gweithgynhyrchu yn cael ei wneud gan y diwydiant ym Mhrydain, a fyddai’n cynnal ac yn datblygu gallu, cyfleusterau a sgiliau diwydiannol y DU.

Dywedodd Stuart Andrew, y Gweinidog Amddiffyn ar gyfer Caffael Amddiffyn:

Mae Cymru’n chwarae rhan enfawr yn y gwaith o sicrhau bod gan ein lluoedd arfog offer milwrol o’r radd flaenaf i’n hamddiffyn ni, ac y mae eisoes wrthi’n adeiladu cerbydau Ajax newydd y Fyddin, sef yr archeb fwyaf o’i math ers tri degawd.

Fe wnaethom ni wario £945m gyda busnesau yng Nghymru y llynedd, gan gefnogi dros 6,000 o swyddi wrth i’r diwydiant barhau i ffynnu. Gallai’r fargen bosibl ar gyfer cerbydau arfog Boxer olygu o leiaf 1,000 yn fwy o swyddi ym Mhrydain, ac rwyf yn gobeithio y bydd cwmnïau lleol yn achub ar y cyfle hwn i ddeall y gallai hyd yn oed mwy o waith ym maes amddiffyn fod ar gael yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae Artec, y consortiwm sy’n gweithgynhyrchu cerbyd Boxer, eisoes wedi ymsefydlu yn y DU. Amcangyfrifir y bydd eu buddsoddiad yn sicrhau neu’n creu o leiaf 1,000 o swyddi ledled y DU, gan gynnwys Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, disgwylir y bydd y DU yn gweld llawer iawn o fewnfuddsoddiad gan Rheinmetall, un o riant-gwmnïau Artec, a wnaeth awgrymu ei fod yn bwriadu lansio a chynhyrchu canolfan integreiddio ar gyfer cerbydau arfog yn y DU. Byddai hyn yn golygu ymrwymiad sylweddol, a fyddai’n arwain at allu tymor hir yn y maes cerbydau arfog yn y DU.

Dywedodd David Pile, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Rheinmetall Defence UK:

Mae digwyddiadau ymgysylltu â chyflenwyr yn gyfle rhagorol i rannu gwybodaeth, cymharu galluoedd a chysylltu sefydliadau ar draws y gadwyn gyflenwi.

Mae Artec, Rheinmetall a KMW yn edrych ymlaen at y digwyddiad ar 10 Medi er mwyn parhau â’n hymgysylltiad â sylfaen ddiwydiannol y DU, a datblygu ein rhwydwaith cyflenwi er mwyn bodloni gofynion y Weinyddiaeth Amddiffyn o ran Cerbydau Cludo Milwyr.

Rydyn ni’n cydnabod lefel ac amrywiaeth y gallu, y sgiliau a’r arbenigedd sydd yn y gadwyn gyflenwi yn y DU ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â llawer mwy o sefydliadau y gallwn weithio gyda nhw i ddarparu’r atebion gorau ar gyfer Lluoedd Arfog Prydain.

Mae Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y maes amddiffyn yn y DU, drwy ddarparu dros 3,000 o filwyr rheolaidd a milwyr wrth gefn i’r Lluoedd Arfog a chefnogi dros 6,000 o swyddi yn y diwydiant. Mae’r wlad yn elwa o wariant y Weinyddiaeth Amddiffyn – £300 y person bob blwyddyn – yn ogystal â buddsoddiad enfawr mewn diwydiant a masnach lleol gwerth £945 miliwn.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 14 August 2018