Datganiad i'r wasg

Daw adolygiad annibynnol i’r casgliad fod Amddiffyn yn bwysig ar gyfer ffyniant Cymru

Mae’r cyn-Weinidog Amddiffyn, Philip Dunne wedi rhyddhau adroddiad sy’n amlinellu’r buddion y mae Amddiffyn yn dod i Gymru a gweddill y DU

Former Defence Minister Philip Dunne has today released a wide-ranging report which highlights the integral role of defence to British prosperity.

  • It says defence invests £945 million in Welsh industry
  • Wales benefits from MOD expenditure of £300 per person each year
  • Defence supports over 6,000 industry jobs

Mae’r cyn-Weinidog Amddiffyn, Philip Dunne wedi rhyddhau adroddiad sy’n amlinellu’r buddion y mae Amddiffyn yn dod i Gymru a gweddill y DU.

  • Mae’n dweud bod Amddiffyn yn buddsoddi £945 miliwn mewn diwydiant yng Nghymru
  • Mae Cymru yn cael budd o wariant y Weinyddiaeth Amddiffyn o £300 y pen bob blwyddyn
  • Mae Amddiffyn yn cefnogi dros 6,000 o swyddi mewn diwydiant

Comisiynwyd yr adolygiad gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson ar ôl iddo lansio’r Rhaglen Moderneiddio Amddiffyn (RhMA) er mwyn cryfhau’r Lluoedd Arfog yn wyneb y bygythiadau sy’n dwysau, ochr yn ochr â’r Prif Weinidog a’r Canghellor.

Mae’r adolygiad annibynnol ynglŷn â chyfraniad Amddiffyn tuag at werth economaidd a chymdeithasol cenedlaethol gan Philip Dunne yn edrych ar draws y Lluoedd Arfog a diwydiant er mwyn darparu darlun manwl i ddarparu gwybodaeth ar gyfer cynigion i ddiwygio’r RhMA.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson:

Mae adolygiad Philip Dunne yn dangos pa mor hanfodol ydi Amddiffyn, nid yn unig i’n amddiffyn rhag peryglon byd-eang a gwarchod ein ffyniant cenedlaethol, ond yn ogystal i’n heconomi drwy greu miloedd o swyddi arbenigol a medrus a chreu biliynau mewn allforion.

Mae’n creu darlun clir ynglŷn â sut mae Amddiffyn a’r diwydiant Amddiffyn yn cyrraedd pob cornel o’r DU ac mae’n ganolog i gyflogaeth mewn cymaint o ddinasoedd a threfi.

Mae’n gosod rhai heriau allweddol i’w hystyried fel mae ein Rhaglen Moderneiddio Amddiffyn yn parhau i sicrhau bod Amddiffyn y gorau y gall fod ym Mhrydain yn dilyn Brexit.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae adolygiad heddiw yn dangos effaith gwerthfawr y sector Amddiffyn i’n diogelwch, ond hefyd i economi Cymru fel ei gilydd, gan gefnogi miloedd o swyddi a miliynau o bunnau o fuddsoddiad drwy’r wlad.

Roedd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno y mis diwethaf yn arddangosfa falch o gysylltiadau milwrol Cymru, ac rydw i wedi gweld yn ymarferol ysbryd anhygoel ein Gwarchodlu Cymreig ar y tir yn Affganistan. Mae Llywodraeth y DU yn gweithio yn galed i sicrhau bod Amddiffyn yn parhau i chwarae rhan hanfodol yng ngwead cymunedau ac economi genedlaethol Cymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer eu hadolygu, yn cynnwys: mwy o ymchwil i effaith caffaeliadau sylweddol ar ffyniant cenedlaethol; adeiladu perthnasau cryf gyda chyflenwyr diwydiant; ac ystyried sut y gallai sefydliadau blaenllaw’r DU gael mwy o ryddid entrepreneuraidd.

Mae Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn Amddiffyn yn y DU drwy ddarparu dros 3,000 o filwyr parhaol a milwyr wrth gefn ar gyfer y Lluoedd Arfog, cefnogi dros 6,000 o swyddi yn y diwydiant ac mae’n enwog am ei meysydd hyfforddi eang sy’n galluogi’r Fyddin Brydeinig a’r Awyrlu Brenhinol i berffeithio eu sgiliau er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal eu mantais filwrol yn erbyn gelynion.

Mae’r wlad yn cael budd o wariant y WA o £300 y pen bob blwyddyn a buddsoddiad anferth mewn diwydiant a masnach lleol o £945 miliwn. Prif wariant grŵp diwydiant mwyaf y WA yn y wlad yw arfau a ffrwydron sy’n costio cyfanswm o £246 miliwn. Mae cyflenwyr allweddol yn cynnwys Airbus, General Dynamics, GE Aviation, QinetiQ a Raytheon.

Mae gan Gymru rai o’r isadeileddau Amddiffyn cenedlaethol pwysicaf drwy greu arweinwyr Byddinoedd yn y dyfodol yn Ysgol Frwydro y Milwyr Traed yn Aberhonddu, gan sicrhau enw da’r Deyrnas Unedig fel prif rym awyr byd-eang, gyda’i hyfforddiant ar gyfer peilotiaid awyrennau cyflym yn yr Awyrlu Brenhinol yn y Fali, ac wrth gwrs, balchder o gael ail long awyrennau y Llynges Frenhinol, o’r enw HMS Tywysog Cymru, sydd ar flaen y gad.

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Guto Bebb:

Mae gan Gymru berthynas falch a hanesyddol gyda’n Lluoedd Arfog sy’n amlwg yn cael ei dangos yn Adolygiad Dunne. Ers canrifoedd, mae’r Cymry wedi bod yn cyflenwi caledwedd milwrol o’r radd flaenaf, cyfleusterau hyfforddi blaenllaw a rhai o’r dynion a’r merched gorau yn ein gwasanaethau milwrol. Rydw i’n dymuno gweld pob agwedd unigol o gyfraniad Cymru tuag at Amddiffyn yn ymestyn ac yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod, er mwyn iddyn nhw fod o fudd i’n Lluoedd Arfog ac i’n gwlad.

Dywedodd Philip Dunne:

Rydw i’n falch o fod wedi gallu cynnal yr adolygiad hwn ac rydw i’n ddiolchgar am help pawb y tu mewn a thu allan i’r Adran sydd wedi cyfrannu.

Dyma’r tro cyntaf am rai blynyddoedd i adroddiad annibynnol geisio edrych ar effaith lwyr Amddiffyn ar economi’r DU, ei gwledydd datganoledig a’i rhanbarthau yn Lloegr.

Mae Amddiffyn wedi gwneud nifer o gamau pwysig i gwrdd â’i amcan ffyniant. Mae’n gwneud cyfraniad mawr at ein llesiant economaidd, gyda 50,000 o bobl yn gweithio yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol mewn Amddiffyn a thros 25,500 o brentisiaid yn datblygu sgiliau. Mewn sawl cymuned leol, Amddiffyn yw un o brif ddarparwyr swyddi tra medrus.

Ond gellir gwneud mwy oherwydd bod yn rhaid i Amddiffyn addasu i fygythiadau technolegol sy’n datblygu yn gyflym, ac felly dylai feddiannu’r cyfleoedd yn ogystal i addasu a gwella ei brosesau ei hun, er mwyn cwrdd â heriau Amddiffyn uwch dechnolegol y dyfodol.

Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r WA yn ymateb i’r adroddiad hwn ac rydw i wedi cadarnhau wrth yr Ysgrifennydd Amddiffyn fy mod yn fodlon ailymweld ymhen rhai misoedd er mwyn gweld sut mae’r Adran wedi ystyried hyn a lle mae wedi penderfynu gweithredu’r syniadau hyn

Mae Amddiffyn yn gwneud cyfraniad anferth ar draws holl ranbarthau’r DU, p’un ai fel prif gyflogwr, buddsoddwr mawr neu fel canolfan ar gyfer cymunedau lleol. Amddiffyn yw’r trydydd tirfeddiannwr mwyaf yn y wlad, gyda 220,000 hectar, gyda chymunedau ynysig a gwledig yn aml yn cael budd ohono.

Mae’r adroddiad yn datgelu bod oddeutu 500,000 o bobl yn cefnogi Amddiffyn drwy’r DU. Mae’n amlinellu mai diwydiant Amddiffyn y DU yw un o’r cryfaf yn y byd, gyda throsiant blynyddol o £22 biliwn sy’n cefnogi 260,000 o swyddi, llawer ohonyn nhw yn rhai tra medrus ac yn talu’n dda. Yn bwysicach, mae’n cydnabod bod Amddiffyn yn brif gyfrannwr i sgiliau’r wlad ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf i brentisiaid, gyda dros 25,500 wedi cael eu cofrestru ar hyn o bryd.

Mae Dunne hefyd yn cydnabod bod, yn ychwanegol at gyllideb y WA o bron i £37 miliwn, cyfraniad uniongyrchol Amddiffyn i CDG yn cynnwys dros £7 biliwn o allforion a gynhyrchwyd bob blwyddyn ar gyfartaledd. Yn gymharol ddiweddar, arwyddwyd contract adeiladu llongau gwerth hyd at £20 biliwn rhwng BAE Systems a llywodraeth Awstralia i brynu ffrigadau Math 26 wedi’u cynllunio ym Mhrydain - y contract Amddiffyn forol fwyaf ers degawd.

Mae perthynas Amddiffyn fel cwsmer a phartner diwydiannol gyda llawer o sectorau twf uchel yn yr economi yn cynhyrchu mwy o weithgaredd, yn arbennig felly yn y sectorau awyrofod, gofod, seiber, a fwyfwy yn yr economi wybodaeth a’r sectorau creadigol.

Yn ogystal, mae Amddiffyn yn sbarduno buddsoddiad mewn diwydiant Prydeinig drwy’r Strategaeth Adeiladu Llongau Cenedlaethol a lansiwyd y llynedd er mwyn trawsnewid diwydiant morol y DU a hybu ffyniant y rhanbarthau, iardiau llongau a chadwyni cyflenwi morol drwy’r wlad. Yn ogystal, mae’r WA ar fin lansio Strategaeth Brwydro yn yr Awyr er mwyn sicrhau bod Prydain yn cynnal gallu blaenllaw ar gyfer brwydro yn yr awyr.

Bydd y WA yn awr yn ystyried y canfyddiadau yn adroddiad Philip Dunne fel y mae’r gwaith yn parhau ar y RhMA.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 9 July 2018