DECC yn ymgynghori ar eu cynllun iaith Gymraeg Arfaethedig
Heddiw mae DECC wedi lansio ymgynghoriad wyth wythnos i ofyn am farn y rhanddeiliaid ar eu Cynllun Iaith arfaethedig er mwyn sicrhau ei fod …
Heddiw mae DECC wedi lansio ymgynghoriad wyth wythnos i ofyn am farn y rhanddeiliaid ar eu Cynllun Iaith arfaethedig er mwyn sicrhau ei fod yn hawdd ei ddeall ac y bydd yn ateb anghenion y rhai sy’n siarad Cymraeg.
Mae’r cynllun iaith wedi’i baratoi yn unol a Chanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a’r gobaith yw y caiff ei gymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd ar ol y broses ymgynghori. Mae’n disgrifio sut y bydd DECC yn bwrw ymlaen a’r egwyddor a sefydlwyd gan y Ddeddf y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun iaith sy’n nodi sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg.
Gwahoddir unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd a diddordeb yn y materion hyn i ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y dyddiad cau, sef 23 Mai 2011.
Anfonwch eich sylwadau at y canlynol:
- E-bost: wlscheme@decc.gsi.gov.uk
- Post: Stakeholder Engagement Team
Department of Energy and Climate Change
5th Floor Area B
3 Whitehall Place
London SW1A 2AW