Stori newyddion

Dyddiad cau ar gyfer herio eich prisiad ardrethi annomestig

Gofynnwch am newidiadau i’ch prisiad ardrethi presennol cyn 31 Mawrth. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser.

Mae unrhyw un sy’n talu ardrethi busnes – ac sy’n meddwl bod eu prisiad presennol yn anghywir – yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cyfrif prisiad ardrethi busnes.

Os nad oes gennych gyfrif eisoes, neu heb ddefnyddio eich cyfrif ers tro, gall gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i gofrestru a hawlio eich eiddo.

Mae gennych tan 31 Mawrth i ofyn am newidiadau i’ch prisiad presennol drwy:

  • gwirio’r manylion sydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) am eich eiddo, a
  • rhoi gwybod i’r VOA os oes unrhyw beth yn anghywir

O 1 Ebrill ymlaen, bydd rhestr ardrethi newydd a phrisiadau newydd yn dod i rym, a byddwch ond yn gallu gofyn am newidiadau i’ch prisiad newydd.

Mae’r VOA wedi diweddaru gwerthoedd ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr. Gelwir hyn yn ailbrisiad.

Cynhelir ailbrisiad bob 3 blynedd i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. 

Gofyn am newidiadau i’ch prisiad

I ofyn am newidiadau i brisiad presennol eich eiddo, mewngofnodwch i’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.

Os nad oes gennych gyfrif, dylech gofrestru nawr a hawlio eich eiddo.

Gall gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i gwblhau’r broses wirio ac i hawlio eich eiddo.

Gall unrhyw newidiadau a wneir i’ch prisiad 2023 arwain at gynnydd neu ostyngiad yn gwerth ardrethol eich eiddo. Gallent hefyd effeithio ar eich prisiad yn y dyfodol.

Mewngofnodi i’ch cyfrif

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth neu gyfrif One Login arnoch i fewngofnodi i’ch cyfrif.

Os nad yw eich ID Porth y Llywodraeth wedi bod yn weithredol ers 3 blynedd neu fwy, gallai fod wedi’i ddileu am resymau diogelwch. Yn yr achos hwnnw, bydd angen i chi greu cyfrif newydd a hawlio eich eiddo eto. Gall hyn gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i’w brosesu.

Mae cymorth a rhagor o wybodaeth am sut i greu cyfrif gael ar GOV.UK.  

Rhagor o wybodaeth

Gallwch hefyd weld gwerth ardrethol yn y dyfodol eich eiddo heb fewngofnodi, drwy ddefnyddio ein gwasanaeth dod o hyd i brisiad ardrethi busnes ar GOV.UK.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os oes gennych gwestiynau am:

  • eich bil ardrethi busnes
  • rhyddhadau
  • taliadau

Darllenwch ragor am pam bod gennym ddyddiad cau ar gyfer gofyn am newidiadau i brisiad eich eiddo.

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cael ei huno â’i hadran rhiant, CThEF, ar 1 Ebrill 2026. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw achosion presennol neu’r dyfodol, nac ar y ffordd rydych yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwch yn dal i gael mynediad i’ch cyfrif prisiad ardrethi busnes fel arfer.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Chwefror 2026 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.