Press release

DBS yn cefnogi Wythnos Diogelu Cymru 2025

Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cefnogi Wythnos Diogelu Cymru, a gynhelir 10-14 Tachwedd 2025

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cefnogi Wythnos Diogelu Cymru, a gynhelir 10-14 Tachwedd 2025, drwy helpu sefydliadau gwirfoddol ac elusennol ledled Cymru i ddeall rheolau cymhwysedd gwiriadau DBS.

Mae’r DBS yn cefnogi cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel drwy brosesu a chyhoeddi gwiriadau cofnodion troseddol a thrwy gynnal Rhestrau Gwahardd Rhag Gweithio Gydag Oedolion a Phlant. Mae’r rhestrau hyn yn gofnodion o bobl na chaniateir iddynt weithio mewn gweithgarwch rheoledig gyda phlant a/neu oedolion agored i niwed.

Mae Wythnos Diogelu Cymru yn fenter ymwybyddiaeth genedlaethol a gydlynir gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol Cymru, gan weithio ar y cyd i lywio dealltwriaeth well o ddiogelu oedolion a phlant drwy amlygu arfer gorau a rhannu adnoddau.

Mae pob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn cynnal gweithgareddau drwy gydol yr wythnos sy’n ymroddedig i thema benodol, gan gynnwys:

Ffocws y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ystod Wythnos Diogelu yw helpu sefydliadau i ddeall pryd mae angen gwiriadau DBS, beth sy’n cyfrif fel ‘gweithgarwch rheoledig’, sut i gael gwiriadau am ddim ar gyfer gwirfoddolwyr cymwys, a’r broses ymgeisio.

Ar y cyd ag Wythnos Diogelu, mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn cynnal sesiwn chwalu mythau ar-lein am ddim, sy’n canolbwyntio ar y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. I’w chynnal ar 11 Tachwedd, bydd y sesiwn yn mynd i’r afael â chamdybiaethau cyffredin ynghylch cymhwysedd i gael gwiriadau DBS, ac yn darparu canllawiau ymarferol i helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel wrth gefnogi eu gwirfoddolwyr. Cofrestrwch yma

Dywedodd Owain Rowlands, Cynghorydd Allgymorth Diogelu Rhanbarthol Cymru yn y DBS:

“Mae llawer o sefydliadau gwirfoddol eisiau gwneud y peth iawn, ond nid ydyn nhw bob amser yn siŵr o ofynion gwiriadau DBS. Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru yn gyfle gwych i gysylltu â’r sector gwirfoddol, a bydd y gweithdy am ddim hwn yn rhoi’r hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen ar arweinwyr i ddeall pryd mae angen gwiriadau, a sut i gael gwiriadau DBS am ddim ar gyfer gwirfoddolwyr cymwys.”

Mae Cynghorwyr Allgymorth Rhanbarthol y DBS yn darparu cefnogaeth am ddim drwy gydol y flwyddyn i sefydliadau ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i wasanaeth allgymorth rhanbarthol y DBS neu cysylltwch ag Owain Rowlands drwy owain.rowlands@dbs.gov.uk.

Updates to this page

Published 7 November 2025