Stori newyddion

Penodi David Jones yn Gadeirydd DVLA

Heddiw, cyhoeddodd DVLA benodiad David Jones fel ei chadeirydd anweithredol.

Mae gan David hanes profedig mewn gwasanaethau digidol ac ar hyn o bryd mae’n gyfarwyddwr anweithredol yn Ofcom ac Ofwat. Cyn ei waith yn y sector cyhoeddus, roedd David yn Brif Swyddog Technoleg yng Nghrŵp Teithio Aspro yng Nghaerdydd ac yna roedd yn Sylfaenydd / Prif Swyddog Gweithredol Travelink Software. Bydd David yn dechrau ar ei swydd ddiwedd mis Ionawr 2024 pan fydd Lesley Cowley OBE, Cadeirydd presennol DVLA, yn camu o’r neilltu ar ôl naw mlynedd lwyddiannus fel Cadeirydd DVLA.

Dywedodd Gweinidog y Ffyrdd, Guy Opperman:

Hoffwn ddiolch i Lesley am ei hymroddiad a’i gwaith anhygoel gyda DVLA dros y naw mlynedd diwethaf. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda David i sicrhau bod DVLA yn parhau i ddarparu gwasanaethau cyflym ac effeithlon i’w chwsmeriaid, yn ogystal â chyflawni ei gwaith trawsnewid digidol.

Dywedodd David Jones:

Rwy’n gyffrous i ymuno â DVLA fel Cadeirydd. Roedd fy rhieni yn dod o Abertawe, felly mae hyn yn teimlo fel fy mod yn dod adref. Mae DVLA eisoes wedi dangos gallu clodwiw mewn trawsnewid digidol, ac edrychaf ymlaen at lywio hyn ymlaen. Rydym ar drothwy datblygiadau technolegol cyffrous ac wrth i DVLA groesawu gorwelion newydd, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod cynnydd technolegol yn parhau i wasanaethu, gwella a symleiddio bywydau pob modurwr yn y wlad.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda David. Mae’r rhain yn amseroedd cyffrous i DVLA a bydd gwybodaeth a phrofiad David o fudd mawr wrth inni barhau â’n gwaith i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar ein gwasanaethau digidol rhagorol.

Cyhoeddwyd ar 14 December 2023