Stori newyddion

Rhoi terfyn ar ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones wedi croesawu camau a ddatgelwyd gan y Swyddfa Gartref i amddiffyn cymunedau rhag y niwed difrifol a…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones wedi croesawu camau a ddatgelwyd gan y Swyddfa Gartref i amddiffyn cymunedau rhag y niwed difrifol a achosir gan ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol.

Mae’r cynlluniau, a fydd yn destun ymgynghori’n awr, yn cynnwys ‘sbardun cymunedol’ a fydd yn gorfodi asiantaethau lleol i ymchwilio i ymddygiad gwrthgymdeithasol os oes amryw o bobl wedi rhoi gwybod amdano neu os yw’r un person wedi rhoi gwybod amdano dair gwaith.

Bydd gorchymyn ymddygiad troseddol newydd yn gwahardd unigolyn o weithgareddau neu lefydd penodol a bydd yn rhaid iddynt fynd i’r afael a’u hymddygiad.   Pe byddai unigolyn yn torri amodau’r gorchymyn, gallai wynebu hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Wrth groesawu’r cynlluniau, dywedodd Mr Jones:  “Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn broblem yn ein cymunedau am ormod o amser o lawer.   Dyna pam y mae’r Llywodraeth hon yn cymryd camau i fynd i’r afael a’r trosedd ofnadwy hwn.

“Mae’r ymgynghoriad ar y cynlluniau yn dechrau heddiw ac maent yn dangos ffordd newydd a fydd yn cefnogi’r dioddefwr yn well ac yn ei gwneud yn haws i’r awdurdodau gymryd camau effeithiol yn gyflym.  Drwy fabwysiadu ffordd fwy hyblyg a lleihau biwrocratiaeth, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i ddioddefwyr a chreu rhywbeth a fydd yn rhwystr go iawn i ddrwgweithredwyr.”

Mae’r cynlluniau yn cynnwys:

  • Sbardunau Cymunedol - gorfodir asiantaethau lleol i gymryd camau os bydd amryw o bobl yn yr un gymdogaeth wedi cwyno a dim byd wedi’i wneud yn ei gylch; neu os yw unigolyn wedi cwyno dair gwaith wrth yr awdurdodau am yr ymddygiad dan sylw, a dim byd wedi’i wneud yn ei gylch;
  • Gorchmynion Ymddygiad Troseddol - fe’u rhoddir gan y llysoedd ar ol rhoi euogfarn, a byddai’r gorchymyn yn gwahardd unigolyn o weithgareddau neu lefydd penodol a bydd yn rhaid iddynt fynd i’r afael a’u hymddygiad, er enghraifft, dilyn rhaglenni triniaeth cyffuriau.  Pe byddai unigolyn yn torri amodau’r gorchymyn, gallai wynebu hyd at bum mlynedd yn y carchar;
  • Gwaharddebau Atal Troseddu - eu bwriad yw delio ag ymddygiad gwael cyn iddo waethygu.  Byddai’r waharddeb yn gosod baich profi sifil, a byddai hyn yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws cael un na dulliau blaenorol. Pe byddai oedolion yn torri amodau’r waharddeb, gallent wynebu carchar neu gael eu dirwyo.  Pe byddai pobl ifanc dan 18 oed yn torri amodau’r waharddeb, gellid delio a hwy drwy drefnu cyrffyw, goruchwyliaeth neu eu cadw dan glo.
  • Gorchmynion Diogelu’r Gymuned - yn cynnwys un gorchymyn er mwyn i awdurdodau lleol atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ymwneud a’r amgylchedd megis graffiti, sŵn cymdogion neu faw cŵn; ac un arall er mwyn i’r heddlu a’r awdurdodau lleol ddelio a throseddu ac anrhefn mwy difrifol mewn lle penodol megis cau eiddo a ddefnyddir ar gyfer delio cyffuriau; a
  • Pwerau ‘Cyfarwyddyd’ yr Heddlu - pŵer i gyfeirio unrhyw unigolyn sy’n cyflawni neu’n debygol o gyflawni trosedd neu anrhefn oddi wrth le penodol ac atafaelu eitemau cysylltiedig. 

Nodiadau

Gellir gweld y ddogfen ymgynghori yn: http://www.homeoffice.gov.uk/publications/consultations/cons-2010-antisocial-behaviour/

Cyhoeddwyd ar 7 February 2011