Stori newyddion

Diwygio’r Dreth Gyngor yng Nghymru

Rydym yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â ffermydd gweithiol a chartrefi symudol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ddechrau paratoi i gynnal ailbrisiad arfaethedig o bob un o’r 1.5 miliwn eiddo domestig yng Nghymru.

Fel rhan o hyn rydym wedi cysylltu â phreswylwyr sy’n byw ar ffermydd gweithiol neu mewn cartrefi symudol, yn gofyn am wybodaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i www.gov.uk/government/publications/wales-council-tax-reform

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd safbwyntiau ar yr opsiynau ar gyfer diwygio Treth Gyngor yng Nghymru. Gallwch ddarllen y ddogfen ymgynghori drwy fynd i llyw.cymru/diwygiotrethgyngor

Nid oes unrhyw newidiadau ar ar hyn o bryd i fandiau Treth Gyngor.

Dim ond os ydym wedi gofyn i chi wneud hynny y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth i’r VOA.

Cyhoeddwyd ar 14 November 2023