Skip to main content
Stori newyddion

Pryderon ynghylch prisiau bwyd yn parhau i fod yn uchel yn y data tracio defnyddwyr blynyddol diweddaraf

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi adroddiad diwedd blwyddyn o’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr misol, sy’n crynhoi’r canfyddiadau allweddol rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026 ynghyd â thueddiadau tymor hwy.

Image of a person pushing a trolley down the aisle of a supermarket.

Wrth gyflwyno rhestr o opsiynau i’r ymatebwyr a gofyn iddynt nodi eu pryderon ynghylch ystod o bynciau cysylltiedig â bwyd, prisiau bwyd sydd wedi’i nodi’n gyson fel eu prif bryder. Ym mis Mawrth 2026, dywedodd 91% eu bod yn poeni am hyn, gyda lefelau’n amrywio o 86% i 92% ers i’r gwaith tracio ddechrau ym mis Gorffennaf 2023. Er bod pryder mawr ynghylch prisiau bwyd, dywedodd canran is eu bod yn poeni am eu gallu nhw eu hunain neu eu haelwyd i fforddio bwyd yn y mis nesaf (23% ym mis Mawrth 2026). Mae hyn wedi amrywio o fewn ystod gul ers mis Gorffennaf 2023 (19%–28%).

Ochr yn ochr â’r pryderon hyn, dywedodd llawer o’r ymatebwyr eu bod wedi ymgymryd ag ymddygiadau penodol mewn perthynas â bwyd i arbed arian, a gallai rhai o’r ymddygiadau hyn gynyddu risgiau diogelwch bwyd.

Bob mis rhoddir rhestr i’r ymatebwyr a gofynnir iddynt ba ymddygiadau, os unrhyw rai, y gwnaethon nhw ymgymryd â nhw yn ystod y mis blaenorol. Y rhai mwyaf cyffredin ym mis Mawrth 2026 oedd:

  • bwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (64%)
  • bwyta bwyd dros ben a oedd wedi cael ei gadw yn yr oergell am fwy na deuddydd (60%)
  • prynu llai o fwyd (52%)
  • ailgynhesu bwyd dros ben fwy nag unwaith er mwyn osgoi eu taflu (39%)
  • diffodd y popty neu’r hob yn gynt i orffen y coginio mewn gwres gweddilliol (33%)

Pan ofynnwyd ymhellach, roedd pryderon cyffredin eraill a gododd yn Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr mis Mawrth 2026 yn cynnwys bwyd wedi’i brosesu’n helaeth (77%), gwastraff bwyd yn y gadwyn fwyd (77%), lles anifeiliaid yn y diwydiant bwyd (76%) ac ansawdd bwyd (76%).

Dywedodd Katie Pettifer, Prif Weithredwr yr ASB:

Mae’r data diweddaraf hwn yn dangos bod prisiau bwyd yn parhau i fod yn bryder mawr eleni i’r rhan fwyaf o’r bobl y gwnaethom ni eu holi. Dywedodd llawer o bobl eu bod wedi gwneud pethau peryglus er mwyn arbed arian, fel bwyta bwyd a oedd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. Felly, yr haf hwn rydym unwaith eto’n cynnal ymgyrch i roi cyngor ar sut i gadw’ch hun a’ch teulu’n ddiogel wrth goginio a pharatoi bwyd gartref.

Ar 7 Mehefin, lansiodd yr ASB ei hymgyrch diweddaraf sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, o’r enw ‘Stopia. Meddylia. Gweina.’. Mae’n canolbwyntio ar arferion yn y gegin o ddydd i ddydd sy’n gallu rhoi pobl mewn perygl, yn enwedig y bobl hynny sy’n fwy agored i salwch a gludir gan fwyd.

Dywedodd Catherine David, Prif Swyddog Gweithredol WRAP:

Rydyn ni’n gwybod bod 60% o’r holl fwyd sy’n cael ei wastraffu yn dod o’n cartrefi – gan gostio tua £1,000 y flwyddyn i aelwyd gyffredin o bedwar. Mae meithrin arferion bwyd da yn hanfodol er mwyn gwneud y gorau o’r bwyd rydych chi’n ei brynu, yn enwedig yn yr haf pan fydd bywyd yn gallu bod yn brysurach a gall y bwyd yn eich cegin fynd yn angof. Rydym yn gweithio gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd ac mae ein hymgyrch ‘Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff’ yn rhoi canllawiau ar storio a defnyddio’ch bwyd mewn ffordd ddiogel – gan eich helpu chi yn y pen draw i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach i’ch teulu.

Mae gan ymgyrch newid ymddygiad WRAP, Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, adnodd ‘Arferion Bwyd Da’ sy’n amlinellu ffyrdd o arbed amser ac arian.

Gall defnyddwyr hefyd ddod o hyd i lawer o gyngor a gwybodaeth am gadw’n ddiogel wrth baratoi bwyd ar ein gwefan. Yn ogystal, mae’r ASB yn cefnogi lleihau gwastraff bwyd, a hynny wrth sicrhau bod bwyd yn cael ei goginio a’i baratoi’n ddiogel.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yn adran ymchwil ein gwefan.

Gair am yr Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr

Arolwg tracio misol yr ASB yw’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr, sy’n monitro newidiadau yn ymddygiad ac agweddau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Caiff ei gynnal gan YouGov.

Bob mis, cynhelir yr arolwg gyda thua 2,000 o oedolion (16 oed neu hŷn) yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr sydd wedi cofrestru ar gyfer panel arolwg ar-lein YouGov.

Rhagor o wybodaeth

Bydd yr adroddiad chwarterol nesaf sy’n ymdrin â chanfyddiadau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2026 yn cael ei gyhoeddi ar 6 Awst.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2026