Datganiad i'r wasg

Cydnabyddir Tŷ'r Cwmnïau unwaith eto am ddiwylliant rhagorol yn y gweithle

Mae Tŷ'r Cwmnïau yn falch o fod wedi cadw ei statws platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl (IiP) 'rydym yn buddsoddi mewn pobl'.

Companies House chief executive, Louise Smyth (left), and director of people transformation, Aimee Symonds, with the Investors in People ‘we invest in people’ platinum award.

Buddsoddwyr mewn Pobl yw’r safon ryngwladol ar gyfer rheoli pobl, gan ddiffinio’r hyn sydd ei hangen i arwain, cefnogi a rheoli pobl yn effeithiol i sicrhau canlyniadau cynaliadwy a galluogi sefydliadau i feincnodi yn erbyn y gorau yn y busnes ar raddfa ryngwladol.

Platinwm yw’r achrediad uchaf sydd ar gael a dim ond 5% o sefydliadau sy’n ennill y lefel hon o gydnabyddiaeth.

Enillodd Tŷ’r Cwmnïau statws platinwm ‘rydym yn buddsoddi mewn pobl’ gyntaf yn hydref 2020. Adnewyddwyd hyn am y tair blynedd nesaf, ar ôl asesiad manwl, yn cynnwys cyfweliadau unigol, grwpiau ffocws, arsylwi ar gyfarfodydd allweddol ac arolygon pobl.

Nododd asesydd IiP Jackie Lewis bod diwylliant ‘pobl yn gyntaf’ yn amlwg ledled Tŷ’r Cwmnïau, gyda chefnogaeth gref gan arweinwyr hefyd yn amlwg wrth wneud penderfyniadau: “Mae pobl wir yn credu bod y sefydliad yn lle gwych i weithio.”

Dywedodd Prif Weithredwr Tŷ’r Cwmnïau, Louise Smyth:

Mae hwn yn ganlyniad gwych, yn enwedig o ystyried y newid enfawr sy’n digwydd yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae hyn yn dyst i’n holl staff, oherwydd y bobl sy’n gwneud diwylliant Tŷ’r Cwmnïau fel y mae.

Mae’r wobr hon yn dangos bod ein dull o ymgysylltu â gweithwyr, cyfathrebu, diwylliant sefydliadol ac arferion gwaith yn cyd-fynd ag arfer gorau, a’n bod yn blaenoriaethu ein pobl.

Dywedodd Paul Devoy, Prif Weithredwr Buddsoddwyr mewn Pobl:

Hoffem longyfarch Tŷ’r Cwmnïau unwaith eto! Mae achrediad platinwm ‘Rydym yn buddsoddi mewn pobl’ yn ymdrech ryfeddol i unrhyw sefydliad, ac yn gosod Tŷ’r Cwmnïau mewn cwmni gwych gyda llu dethol o rai eraill sy’n deall gwerth pobl a sut maent o fudd i berfformiad eu sefydliad.

Yn ogystal ag achrediad platinwm ‘rydym yn buddsoddi mewn pobl’, cyflawnodd Tŷ’r Cwmnïau safon aur ‘rydym yn buddsoddi mewn lles’ IiP yn 2022.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn creu cannoedd o swyddi newydd i alluogi trawsnewid digidol a diwygio deddfwriaethol. Mae rhagor o wybodaeth am weithio i Dŷ’r Cwmnïau a manylion y swyddi gwag presennol ar gael ar GOV.UK.

Nodiadau

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn asiantaeth weithredol, a noddir gan yr Adran Busnes a Masnach (DBT). Rydym yn ymgorffori ac yn diddymu cwmnïau cyfyngedig. Rydym yn cofrestru gwybodaeth am y cwmni ac yn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn hybu hyder yn yr economi ac yn gwneud y DU yn lle gwych i ddechrau a rhedeg busnes. Mae’r data ar ein cofrestrau yn llywio penderfyniadau busnes, yn cefnogi twf ac yn brwydro yn erbyn troseddau economaidd.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cyflogi dros 1,000 o bobl ac mae ganddo swyddfeydd yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast.

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl wedi achredu dros 50,000 o sefydliadau ers 1991. Mae achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn cael ei gydnabod mewn 66 o wledydd ledled y byd, gan ei wneud yn feincnod byd-eang o ran rheoli pobl.

Cyhoeddwyd ar 12 September 2023