Stori newyddion

Mynediad at farchnad yn Tsieina yn rhoi hwb gwerth sawl miliwn i gig eidion ym Mhrydain

Newyddion da i ffermwyr o Gymru a allai weld eu cig eidion yn cael ei weini ar blatiau bwyd yn Tsieina erbyn diwedd y flwyddyn

From left to right - Welsh Secretary Alun Cairns, Chinese Ambassador Liu Xiaming and Chinese Vice Premier Hu Chunhua.

From left to right – Welsh Secretary Alun Cairns, Chinese Ambassador Liu Xiaming and Chinese Vice Premier Hu Chunhua.

Disgwylir y bydd allforwyr o Gymru yn elwa o sawl miliwn o bunnau wrth i Tsieina gytuno i roi mynediad i’r farchnad i gig eidion o’r DU erbyn diwedd 2019. Gallai cynhyrchwyr o Brydain gael tua £230 miliwn yn y pum mlynedd gyntaf yn unig, a daw hyn dros 20 mlynedd ar ôl i lywodraeth Tsieina wahardd cig eidion o’r DU rhag cael ei fewnforio yn 1996.

Cafodd Protocol Cig Eidion y DU a Tsieina ei lofnodi gan Robert Goodwill, Gweinidog Ffermio’r DU, a Liu Xiaoming, Llysgennad Tsieina i’r DU, fel rhan o’r 10fed Deialog Economaidd ac Ariannol (EFD) rhwng y DU a Tsieina. Mae hyn yn benllanw sawl blwyddyn o archwilio safleoedd ac ymgysylltu rhwng swyddogion llywodraeth y DU a Tsieina.

Cyn ymweliad Tsieina â Chaerdydd, fe wnaeth Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, gwrdd â Liu Xiaming, Llysgennad Tsieina, a Hu Chunhua, Is-bennaeth Llywodraeth Tsieina, i drafod pa mor bwysig oedd penderfyniad Tsieina i roi mynediad i’r farchnad i gynhyrchwyr cig eidion o Gymru. Amcangyfrifir y bydd y cytundeb werth tua £25 miliwn y flwyddyn i’r sector cig coch yng Nghymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd agor y farchnad yn Tsieina yn esgor ar gyfleoedd cyffrous i gynhyrchwyr cig eidion o Gymru a fydd, o ganlyniad i’r cytundeb, yn cael mynediad i un o economïau mwyaf y byd yn fuan.

Mae’r cytundeb hwn yn dangos yr hyder yn ein bwyd a diod o ansawdd uchel yn tyfu ym mhob cwr o’r byd, ac yn amlygu’r cynnydd yn y galw am gig eidion Cymreig mewn marchnadoedd deinamig ledled y byd.

Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o gael mynediad i farchnadoedd newydd, a fydd yn sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu parhau i dyfu a ffynnu.

Dywedodd Robert Goodwill, Gweinidog Ffermio’r DU:

Mae hon yn gamp fawr i’n diwydiant bwyd a ffermio o’r radd flaenaf, ac yn garreg filltir a allai fod werth £230 miliwn i fusnesau ym Mhrydain yn ystod y pum mlynedd nesaf yn unig.

Mae’r garreg filltir heddiw yn adlewyrchu ein huchelgais o fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachu newydd ledled y byd a bod yn Brydain Fyd-eang wrth i ni adael yr UE.

Tsieina yw’r farchnad allforio fwyaf ond 7 yn y DU ar gyfer bwyd a diod; fe brynwyd gwerth dros £610 miliwn o gynnyrch gan ddefnyddwyr o Tsieina y llynedd.

Mae allforion bwyd y DU yn parhau i ffynnu; roedd allforion bwyd a diod werth dros £22 biliwn y llynedd, ac mae busnesau bwyd a diod bellach yn gwerthu eu cynnyrch i 217 o farchnadoedd.

Mae’r llywodraeth yn parhau i annog a chefnogi busnesau drwy ei ymgyrch ‘Food is Great’ wrth iddi ystyried lansio’r ymgyrch hon mewn marchnadoedd dramor neu ehangu’r sylfaen o gwsmeriaid sydd ganddi eisoes ledled y byd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 18 June 2019