Datganiad i'r wasg

Y Prif Weithredwr i adael y Gofrestrfa Tir y flwyddyn nesaf

Mae Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr Cofrestrfa Tir EM wedi cyhoeddi ei fwriad i roi'r gorau i'w swydd yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Land Registry: Croydon

Mae Ed Lester, Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr Cofrestrfa Tir EM, wedi cyhoeddi ei fwriad heddiw i roi’r gorau i’r ddwy rôl yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn nesaf.

Ymunodd Ed â’r Gofrestrfa Tir yn 2013 ac mae wedi bod yn gyfrifol am gyflawni adolygiad mawr o strwythur masnachol y Gofrestrfa Tir ac am lywio agenda trawsnewid uchelgeisiol. Bydd Ed yn gadael y Gofrestrfa Tir gyda thîm Gweithredol a strwythur trefniadaethol cryf ar waith.

Dywedodd Mark Boyle, Cadeirydd y Gofrestrfa Tir “Mae’r Bwrdd a finnau’n drist fod Ed wedi penderfynu gadael y Gofrestrfa Tir, ond rydym yn cefnogi ei benderfyniad yn llwyr. Mae Ed wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer dyfodol y Gofrestrfa Tir. Rydym yn gwerthfawrogi ei fod wedi cytuno aros tan y flwyddyn nesaf oherwydd bydd angen ei ddoethineb a’i brofiad ar y sefydliad wrth i ni ddechrau cyfnod mawr o newid i’r sefydliad. Pan ddaw’r amser iddo adael, byddwn yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Ed Lester: “Mae wedi bod yn anrhydedd pleserus ac anhygoel cael y cyfle i fod yn rhan o hanes cyfoethog y Gofrestrfa Tir. Yn ystod fy nghyfnod yma, cefais fy nharo gan broffesiynoldeb a brwdfrydedd y staff, hyd yn oed yn ystod cyfnodau heriol ac rwy’n gwybod y byddant yn parhau gyda’r gefnogaeth honno ar gyfer fy olynydd.”

Bydd y Gofrestrfa Tir nawr yn dechrau’r broses o recriwtio Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr newydd er mwyn i’r unigolyn ddechrau yn y swydd cyn i Ed adael.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 3 September 2014