Stori newyddion

Cheryl Gillan yn croesawu gostyngiad trosedd yng Nghymru

Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr ystadegau a gyhoeddwyd heddiw [dydd Mercher 20 Ebrill)  sy’n dangos bod trosedd a gofnodwyd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr ystadegau a gyhoeddwyd heddiw [dydd Mercher 20 Ebrill)  sy’n dangos bod trosedd a gofnodwyd yng Nghymru , yn gyffredinol,  wedi gostwng 9% o’i gymharu a’r deuddeng mis blaenorol.

Dywedodd Mrs Gillan:   “Mae’r ystadegau’n galonogol ac rwy’n sicr y byddant yn rhoi cysur i bobl ledled Cymru.   Yn arbennig, rydym  wedi gweld ac yn croesawu’r gostyngiadau sylweddol yn niferoedd  lladradau, troseddau yn erbyn cerbydau, twyll a difrod troseddol a gofnodwyd.

“Fodd bynnag, cyhyd a bo’r ystadegau, yn gyffredinol, yn addawol ac yn cynnig seiliau i adeiladu arnynt, nid oes lle i fod yn hunanfodlon.    Er bod trosedd a gofnodwyd yn gostwng yng Nghymru, canfyddiad y cyhoedd o rai troseddau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol  a’u  bod yn broblem yn eu hardal yn parhau yn bur ddigyfnewid.   Mae hyn yn parhau i beri pryder ac mae’n rhaid inni ailddyblu ein hymdrechion, gan weithio’n glos gyda’r pedwar heddluoedd i fynd ati a gwella hyder y cyhoedd

Yng Nghymru, o’i gymharu a’r 12 mis blaenorol, Rhagfyr 2009 i Ragfyr 2010  mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod: 

  • Troseddau yn erbyn cerbydau i lawr 20%
  • Twyll a Ffugiad i lawr 19%
  • Difrod Troseddol i lawr  18%
  • Lladrad i lawr 15%
  • Trais corfforol i lawr 9%
  • Byrgleriaeth i lawr 8%

Nodiadau

Gellir gweld yr ystadegau diweddaraf yn ymwneud a throsedd yn http://www.homeoffice.gov.uk/publications/science-research-statistics/research-statistics/crime-research/hosb0611/?view=Standard&pubID=885323

Cyhoeddwyd ar 20 April 2011